Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau y trothwyon ariannol newydd i'w gweithredu mewn caffael cyhoeddus.
Bydd y trothwyon newydd yn berthnasol o 1af Ionawr 2018 ac ar waith tan ddiwedd 2019.
Wrth gaffael nwyddau neu wasanaethau dros y trothwy ariannol rhaid i awdurdod cyhoeddus wneud hynny o dan Rheoliadau Contractau Cyhoeddus y DU 2015 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a Rheoliadau Contractau Cyhoeddus (yr Alban) 2015.
Roedd y Rheoliadau hyn yn trawsosod Cyfarwyddeb Contractau Cyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd (2014/24/EU) i gyfraith genedlaethol.
Rhaid i sefydliadau sy’n prynu hysbysebu unrhyw ofyniad dros y trothwyon newydd yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU), yn hytrach na dim ond ei hysbysebu yn genedlaethol. Bydd y cyfrifiad o amcangyfrif gwerth caffaeliad yn seiliedig ar y cyfanswm sy'n daladwy, gwerth NET TAW, fel yr amcangyfrifwyd gan yr awdurdod contractio, gan gynnwys unrhyw ffurf o opsiwn ac unrhyw adnewyddu o’r contractau fel y nodir yn benodol yn y dogfennau caffael.
Rhwng trothwyon 2016/2017 a throthwyon 2017/2018 yr ydym wedi gweld cynnydd bach yn y trothwyon mewn punnoedd sterling a'r Ewro. Oherwydd y cynnydd cymharol fach, mae'n annhebygol y bydd prynwyr na chyflenwyr yn sylwi ar lawer o newid ym maint y contractau a hysbysebwyd ar lefel Ewropeaidd.
Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen gymorth ac adnoddau ar GwerthwchiGymru – Trothwyon yr UE GwerthwchiGymru
First published
12 January 2018
Last updated
07 March 2024