Skip to main content

We've saved some files called cookies on your device. These cookies are:

  • essential for the site to work
  • to help improve our website by collecting and reporting information on how you use it

We would also like to save some cookies to help tailor communications.

BETA
You're viewing an updated version of this service - your feedback will help us to improve it.

Hanfodion Seiber yn helpu sefydliadau i warchod yn erbyn bygythiadau seiber

First published:
05 February 2018
Last updated:
07 March 2024
Mae gwefan newydd wedi'i lansio ar gyfer Hanfodion Seiber: cynllun ardystio wedi'i gefnogi gan y llywodraeth a gaiff ei redeg gan Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol sydd wedi'i anelu at annog pob sefydliad yn y DU i ddiogelu ei hunain rhag y mathau mwyaf cyffredin o ymosodiadau seiber. Wedi'i ddatblygu gan Lywodraeth y DU mewn partneriaeth â diwydiant Prydain, amlinella'r cynllun bum cam syml o reolaethau technegol er mwyn helpu i gadw systemau sydd wedi'u cysylltu â'r rhyngrwyd a'r data sydd arnynt yn ddiogel. Canfu gwaith ymchwil gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon bod bron hanner (45%) o bob busnes bach/micro wedi nodi achos o dorri seiberddiogelwch neu ymosodiad seiber yn 2017. Mae Hanfodion Seiber yn cynnwys dwy lefel o ardystio; - hunanasesiad sy'n cynnig diogelwch rhag pum rheolaeth dechnegol 'hanfodol'; - cynllun Hanfodion Seiber a Mwy sy'n sicrhau bod yr un mesurau diogelu ar waith, ond mai corff annibynnol sy'n ei ddilysu. Dangosa ardystio bod sefydliad yn cymryd seiberddiogelwch o ddifrif a'i fod yn bodloni'r safonau a nodir yn y cynllun Hanfodion Seiber. Gellir ei ddefnyddio hefyd gan sefydliadau sydd eisiau sicrwydd bod eu cadwyni cyflenwi yn seiberddiogel. Mae'n orfodol bod pob sefydliad sy'n cyflenwi i lywodraeth ganolog, sy'n cynnwys ymdrin â gwybodaeth bersonol a darparu rhai cynhyrchion a gwasanaethau TG penodol, yn gallu dangos lefelau effeithiol o seiberddiogelwch eu systemau, a bod ganddynt dystysgrif Hanfodion Seiber. Mae'r wefan yn casglu gwybodaeth ynghyd o amrywiaeth o wefannau'r llywodraeth, er mwyn helpu i wneud proses Hanfodion Seiber mor glir a syml â phosibl. Mae hefyd yn cynnwys cronfa ddata o sefydliadau sydd wedi cael systemau wedi'u hardystio o dan y cynllun yn y flwyddyn ddiwethaf, gan ganiatáu i gwsmeriaid ddilysu manylion eu cadwyni cyflenwi mewn un man. Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg
First published
05 February 2018
Last updated
07 March 2024

0800 222 9004

Lines are open 8:30am to 5pm Monday to Friday.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.