Bydd Expo 2020 yn cael ei gynnal yn Dubai o 20 Hydref 2020 tan 10 Ebrill 2021. Hwn fydd y digwyddiad World Expo cyntaf i gael ei gynnal yn ardal MEASA (y Dwyrain Canol, Affrica a De Asia), sy'n cynnwys 72 gwlad.
Gyda dros 200 o gyfranogwyr o sefydliadau amlochrog, sefydliadau corfforaethol ac addysgol, mae disgwyl i Expo 2020 ddenu 25 miliwn o ymwelwyr erbyn y dyddiad cau.
Mae Expo 2020 yn cynnig cyfleoedd caffael sylweddol i fusnesau o bob maint ac o lawer o sectorau yng Nghymru.
I ddysgu am weithgareddau caffael i ddod, cliciwch ar y ffurflen isod –
Am gyfleoedd caffael ac i gofrestru eich diddordeb, ewch i wefan Expo 2020.
Yn ogystal, mae cyfleodd gwych ar gyfer cyflogaeth, prentisiaethau a gwirfoddoli ar gael. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Expo 2020 .
I gael rhagor o gymorth ac arweiniad ar gyfer eich busnes, darllenwch ein hadran Allforio.
First published
13 August 2018
Last updated
07 March 2024