Skip to main content

We've saved some files called cookies on your device. These cookies are:

  • essential for the site to work
  • to help improve our website by collecting and reporting information on how you use it

We would also like to save some cookies to help tailor communications.

BETA
You're viewing an updated version of this service - your feedback will help us to improve it.

Cronfa Cydnerthedd Brexit

First published:
04 December 2018
Last updated:
07 March 2024
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cronfa Cydnerthedd Brexit, gwerth £1 miliwn sydd ar gael i fusnesau Cymru, i'w helpu i addasu i'r newidiadau yn economi Cymru ar ôl Brexit. Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfle i fusnesau cymwys i wneud cais am gyllid rhwng £10,000 a £100,000 hyd at 50% o gostau’r prosiect Amcanion y Gronfa Cydnerthedd Brexit yw: • datblygu capasiti • gwella prosesau • cadw cystadleurwydd • diogelu swyddi • sicrhau bod masnach yn llifo'n ôl ac ymlaen rhwng Cymru a gweddill y byd I wneud cais, rhaid i fusnesau: • fod wedi'u cofrestru i fasnachu yng Nghymru • gofrestru gyda Busnes Cymru a chwblhau’r Pecyn Cymorth ar Brexit pan fyddant yn cyflwyno cais • gallu dangos y bydd y cyllid yn cyfrannu ar ddiogelu swyddi • bod yn masnachu ers 12 mis neu fwy ar ddiwrnod cyflwyno'r cais Os yw eich busnes yn bodloni’r meini prawf uchod ac os oes gennych brosiect mewn golwg a allai eich helpu i feithrin cydnerthedd ac ymdopi â'r newidiadau y gallech eu hwynebu ar ôl Brexit, yna mae'r gronfa hon yn addas i chi. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, cysylltwch â 03000 6 03000 a byddwch chi'n cael eich cysylltu â chynghorydd i gwblhau'r broses ymgeisio. Mae Cronfa Cydnerthedd Brexit Busnes Cymru yn agored i geisiadau hyd at 31 Mawrth 2020, yn amodol ar gyllid.
First published
04 December 2018
Last updated
07 March 2024

0800 222 9004

Lines are open 8:30am to 5pm Monday to Friday.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.