Background:
Mae’r gallu i arloesi yn echelbin hanfodol ar gyfer busnesau sy’n tyfu, a bydd Arloesi 100 Adeiladu Cymru newydd sbon, mewn cydweithrediad â Dyfodol Adeiladu Cymru, yn cydnabod y rheiny sy’n buddsoddi mewn arloesedd i greu gwerth yn eu cwmnïau.
Mae Arloesi 100 Adeiladu Cymru yn brosiect newydd wedi’i ddylunio i gydnabod, dathlu a hyrwyddo cynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau arloesol cwmnïau adeiladu a chadwyn gyflenwi gysylltiedig ledled Cymru. Mae cwmnïau yn y maes amgylchedd adeiledig yng Nghymru wedi cydnabod ers amser maith, bod nifer o arloesiadau nad ydynt bob amser yn weladwy i gwmnïau sy’n mynd trwy’r broses gynnig, neu drwy gamau dylunio ac adeiladu prosiect. O ganlyniad, caiff atebion ‘carreg drws’ eu hosgoi’n anfwriadol, trwy ddefnyddio atebion o ymhellach i ffwrdd, gan achosi i gwmnïau arloesol yng Nghymru golli busnes.
Mae gan Gymru ymrwymiad cryf i ddatblygu arloesedd ar draws y sector adeiladu. Mae CITB yn rhagweld y bydd y twf ar draws y sector adeiladu yng Nghymru yn mynd i drechu gweddill y DU trwy gydol 2018 a thu hwnt. Mae datblygu Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru, ynghyd â Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, yn ddwy enghraifft o fuddsoddiad mawr mewn arloesi adeiladu.
Bydd Arloesi 100 Adeiladu Cymru yn proffilio a dathlu hyd at 100 o fusnesau sector adeiladu’r wlad, ac yn rhannu eu straeon, nid yn unig ledled Cymru, ond y DU ehangach. Caiff yr ymgyrch ei chyflawni gan adran y cyfryngau a chyhoeddi’r BE Group.
Nid oes angen i arloesi ac, yn aml, nid yw’n ymwneud â chreu rhywbeth newydd nad yw eisoes yn bodoli. Yn enwedig mewn cwmnïau sy’n tyfu, gall ymwneud ag addasu atebion presennol i greu rhywbeth newydd.
Gall fod y cynhyrchion, y gwasanaethau neu’r atebion a gyflwynwyd i’r farchnad neu a ddatblygwyd ar gyfer cwsmeriaid. Yn yr un modd, gall fod y ffordd y caiff busnes ei reoli; neu mai’r prosesau a’r systemau sydd wedi cael eu creu neu eu haddasu sy’n arloesol.
Gan ystyried ehangder y gweithgarwch ar draws y sector adeiladu yng Nghymru, bydd lansio Arloesi 100 Adeiladu Cymru yn ffordd newydd i godi proffil rhai o’r busnesau mwyaf arloesol ledled y wlad – mewn cydweithrediad â Dyfodol Adeiladu Cymru.
Dros y misoedd nesaf, bydd y BE Group a Dyfodol Adeiladu Cymru yn herio busnesau i gofrestru ar gyfer yr Arloesi 100 Adeiladu Cymru cyntaf erioed, a bydd yr ymgyrch yn dod i ben gyda 100 o fusnesau arloesol y sector adeiladu yn cael eu cynnwys mewn adroddiad papur arbennig, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2019, ac ymgyrch digidol estynedig.
Dywedodd Bryan Hoare, Cyfarwyddwr Masnachol Grŵp BE Group: “Gall busnesau fod yn arloeswyr tawel, ac rydym ni’n eu herio nhw i ddod i sôn am beth y maen nhw’n ei wneud yn wahanol, a sut mae eu harloesedd yn cael effaith ar draws y sector adeiladu yng Nghymru a thu hwnt. Rydym ni eisiau dathlu a chydnabod twf arloesedd yn y sector ac, yn bwysicaf fyth, annog mwy i wneud yr un peth.”
Dywedodd Paul Wintle, Rheolwr Rhaglen Dyfodol Adeiladu Cymru: “Mae arloesedd yn mynd i fod yn thema allweddol neu ‘Galwad i Weithredu’ yng Nghynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr hydref, ac mae’n elfen hanfodol o’n strategaeth datblygu busnes yn y Sector Adeiladu. Dyfodol Adeiladu Cymru yw rhaglen cymorth y diwydiant flaenllaw’r wlad, ac yn Strategaeth Fuddsoddi ar y Cyd ar gyfer y diwydiant yng Nghymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a CITB yng Nghymru, ac rydym ni wedi ymroddi adnoddau i amlygu a thyfu’r cwmnïau hynny sy’n rhoi cynnig ar syniadau newydd o ran arloesedd, i sicrhau y cânt y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.”
Ydych chi’n rhan o chwyldro arloesi adeiladu Cymru? Os ydych chi, dyma’ch cyfle chi i gael eich proffilio fel un o 100 o gwmnïau mwyaf arloesol Cymru. Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Arloesi 100 Adeiladu Cymru.
First published
22 January 2019
Last updated
07 March 2024