19 Chwefror 2019, 09:00 - 11:00 - Port Talbot
4 Mawrth 2019, 08:00 - 10:00 - Y Rhws
6 Mawrth 2019, 08:15 - 10:15 - Doc Penfro
12 Mawrth 2019, 08:00 - 10:00 - Glynebwy
13 Mawrth 2019, 08:00 - 10:00 - Y Drenewydd
19 Mawrth 2019, 08:00 - 10:00 - Gaerwen
21 Mawrth 2019, 08:00 - 10:00 - Porthmadog
22 Mawrth 2019, 08:00 - 10:00 - Glannau dyfrdwy
Cost: Am ddim
Ar 23 Mehefin 2016, pleidleisiodd pobl Prydain, o drwch blewyn, i adael yr UE. O gofio bod y dyddiad "ymadael" yn brysur nesáu, pa gamau ymarferol yr ydych chi wedi'u cymryd i asesu'r effaith y gallai Brexit ei chael ar eich busnes, a pha mor barod ydych chi am y newidiadau i'r telerau ar gyfer masnachu ag Ewrop?
Mae Busnes Cymru yn cynnal nifer o seminarau ar Brexit er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y sefyllfa, ac er mwyn cyflwyno ac egluro'r cymorth sydd ar gael ichi drwy Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill. I archebu, cliciwch ar y ddolen isod http://bit.ly/bcbriffioarbrexit.
Erbyn diwedd y digwyddiad, bydd gennych ddealltwriaeth glir o'r cymorth sydd ar gael i helpu busnesau i baratoi ar gyfer Brexit, e.e., Porth Brexit ac offer diagnostig, y cymorth sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru (e.e., Busnes Cymru, Masnach Ryngwladol etc.), yn ogystal â'r cymorth a gynigir gan randdeiliaid allweddol fel Banc Datblygu Cymru, yr awdurdodau lleol etc. Bydd cyfle hefyd ichi rwydweithio.
Bydd lluniaeth ar gael wrth ichi gyrraedd ar gyfer bore sy’n sicr o fod yn un addysgiadol.
Sylwer mai sesiynau briffio yw'r rhain yn hytrach na sesiynau holi ac ateb am Brexit ei hun.
First published
05 February 2019
Last updated
07 March 2024