Os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb, bydd y rheoliadau caffael cyhoeddus yn aros yr un fath fwy neu lai ar ôl inni adael yr UE.
Caiff y rheoliadau presennol eu newid i sicrhau eu bod yn parhau’n weithiadwy a gweithredol ar ôl inni adael. Bydd mwyafrif y rheoliadau caffael ac, yn arbennig, y gwahanol weithdrefnau sydd ar gael i awdurdodau ac endidau yn aros yn union yr un fath. Y gwahaniaeth allweddol i awdurdodau contractio fyddai’r angen i anfon hysbysiadau at wasanaeth e-hysbysiadau newydd i’r DU yn lle Swyddfa Cyhoeddiadau’r UE.
Bydd angen i gyflenwyr sy’n dymuno gweld cyfleoedd contractio yn y DU gan sector cyhoeddus y DU fynd i wasanaeth e-hysbysiadau newydd y DU yn hytrach nag i’r Tenders Electronic Daily (TED). Gall cyflenwyr barhau i ddefnyddio’r pyrth domestig perthnasol, megis Contracts Finder, MOD Defence Contracts Online, Public Contracts Scotland, GwerthwchiGymru ac eTendersNI. Bydd gwasanaeth e-hysbysiadau newydd y DU yn barod i’w ddefnyddio erbyn y diwrnod ymadael.
First published
08 April 2019
Last updated
07 March 2024