21 Mai 2019, 09:30 - 16:00 - Caerdydd
25 Mehefin 2019, 09:30 - 16:00 - Casnewydd
16 Gorffennaf 2019, 09:30 - 16:00 - Pencoed
Cost: Am ddim
“Recriwtio – Dod o hyd i’r bobl gywir" – Wrth gyfuno’r cyfreithiol gyda’r ymarferol, mae’r gweithdy undydd hwn yn archwilio’r sbectrwm cyfan o ran recriwtio gan gyfeirio at y chwe cham:
1. Cynllunio
2. Paratoi
3. Hysbysebu
4. Ymdrin â cheisiadau
5. Cwblhau’r manylion a’r gwiriadau terfynol
6. Sefydlu
Wrth archwilio’r chwe cham recriwtio, bydd dau fframwaith deddfwriaeth arall yn ymuno yn y drafodaeth – rheoli diogelu data a rhagfarn, yn benodol, sef y ddau fater sy’n cael effaith arwyddocaol ar weithdrefnau recriwtio teg. Bydd cynrychiolwyr yn archwilio gallu a graddfa Deddf Gydraddoldeb 2010 a’i nodweddion yn ogystal â mathau amrywiol o ymddygiadau gwaharddedig a all arwain at ymgyfreitha ar gyfer unrhyw weithle; bydd y drafodaeth diogelu data wedyn yn archwilio’r cysyniadau allweddol ar gyfer Deddfwriaeth Diogelu Data Cyffredinol a’i heffaith ymarferol ar ystyriaeth sefydliad o’i maint neu ei sector.
Mae cofrestru/ gwaith papur o 9:00 i 9:30. Bydd y gweithdy yn cychwyn yn brydlon am 9:30
First published
15 May 2019
Last updated
07 March 2024