Yn dod cyn hir - Mae GwerthwchiGymru ar fin elwa o system mewngofnodi newydd
Golygir 'Sign On Cymru' mai dim ond un enw defnyddiwr a chyfrinair yn unig fydd angen ar bob unigolyn i gael mynediad i wasanaethau cymorth busnes digidol yn y dyfodol, gan ddisodli'r system gyfredol o gael nifer o gyfrineiriau mewngofnodi gwahanol wedi'u cysylltu â phob gwasanaeth a gyrchir trwy wasanaethau digidol Busnes Cymru.
Bydd hyn yn cynnwys Busnes Cymru, BOSS, Cofrestr Rhanddeiliaid, Cyfeiriadur Busnes a Phorth GwerthwchiGymru.
Sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi fel defnyddiwr presennol GwerthwchiGymru?
Fel defnyddiwr GwerthwchiGymru presennol, ni fydd gwasanaethau a swyddogaethau'r wefan yn newid, yr unig newid i chi fel defnyddiwr presennol fydd y ffordd rydych chi'n mewngofnodi i ddefnyddio'r safle.
Pan fyddwch yn clicio ar y botwm mewngofnodi, cewch eich cyfeirio i gofrestru drwy ‘Sign On Cymru, ac oddi yno, dilynwch y camau syml i ddiweddaru eich data GwerthwchiGymru presennol.
First published
24 May 2019
Last updated
07 March 2024