Skip to main content

We've saved some files called cookies on your device. These cookies are:

  • essential for the site to work
  • to help improve our website by collecting and reporting information on how you use it

We would also like to save some cookies to help tailor communications.

BETA
You're viewing an updated version of this service - your feedback will help us to improve it.

Sign on Cymru - Gwybodaeth ar gyfer defnyddwyr presennol GwerthwchiGymru.

First published:
31 July 2019
Last updated:
07 March 2024

Rhaid i chi fynd drwy broses gofrestru fer iawn yn awr i ailgysylltu â'ch proffil GwerthwchiGymru sy'n bodoli eisoes.

 

Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiasoch i gofrestru ar GwerthwchiGymru, bydd hyn yn sicrhau y bydd eich cyfrif SOC yn cysylltu â'ch gwybodaeth a data cyfredol ar GwerthwchiGymru. Defnyddwyr Newydd SOC - Cyn ceisio mewngofnodi i GwerthwchiGymru am y tro cyntaf ar ôl y diweddariad hwn, bydd gofyn i chi gofrestru drwy'r rhyngwyneb SOC. Os ydych chi'n ceisio mewngofnodi i'r sgrin SOC gan ddefnyddio'r hen gyfrinair GwerthwchiGymru, bydd y mewngofnodi'n methu.

• Ewch i hafan GwerthwchiGymru – (GwerthwchiGymru.llyw.Cymru)

• Cliciwch Mewngofnodwch - Cewch eich trosglwyddo i'r dudalen wybodaeth SOC.

• Cliciwch ar Ymlaen i fewngofnodi / Cofrestru - cewch eich trosglwyddo i'r dudalen rhyngwyneb SOC.

• Cliciwch ar y linc "Heb gyfrif? Creu cyfrif nawr"

• Rhowch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiasoch i gofrestru gyda GwerthwchiGymru.

• Cliciwch ar ‘Anfon cod dilysu’.

• Caiff cod dilysu ei anfon i ' r cyfeiriad e-bost a roesoch

• Rhowch y cod a dderbyniwyd yn y maes cod dilysu ar y ffurflen SOC.

• Cliciwch Gwirio’r Cod

• Rhowch eich cyfrinair newydd a chadarnhau hyn yn yr ail faes.

• Cliciwch Creu, yna cewch eich trosglwyddo i'ch tudalen cofrestru cychwynnol. Bydd y tabiau proffil wedi'u cwblhau'n rhannol gyda'ch gwybodaeth gyfredol ar GwerthwchiGymru

• Cwblhewch yr holl feysydd gorfodol ac yna ei gadw. Cewch eich trosglwyddo wedyn i banel rheoli GwerthwchiGymru. Os methwch â chwblhau a chadw’ch proffil GwerthwchiGymru o fewn 24 awr i gofrestru, bydd eich cofrestriad "Sign on Cymru" yn cael ei ddileu a bydd rhaid i chi gofrestru ar SOC eto. Defnyddwyr SOC presennol – os oes gennych gyfrif SOC eisoes gydag un o wasanaethau digidol Busnes Cymru fel BOSS neu’r Gofrestr Rhanddeiliaid, gallwch fewngofnodi i gyfrif SOC GwerthwchiGymru ar yr amod eich bod yn rhannu'r un cyfeiriad e-bost.

• Ewch i hafan GwerthwchiGymru – (GwerthwchiGymru.llyw.Cymru)

• Cliciwch Mewngofnodwch - Cewch eich trosglwyddo i'r dudalen wybodaeth SOC.

• Cliciwch ar Ymlaen i fewngofnodi / Cofrestru - cewch eich trosglwyddo i'r dudalen rhyngwyneb SOC.

• Rhowch eich manylion SOC presennol, cliciwch Mewngofnodwch

• Cwblhewch yr holl feysydd gorfodol ac arbedwch, byddwch wedyn yn cael eich trosglwyddo i banel rheoli GwerthwchiGymru. Mae'n ofynnol cwblhau'r broses fer hon er mwyn parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth. Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â ni ar 0800 222 9004.


First published
31 July 2019
Last updated
07 March 2024
Sign on Cymru - Gwybodaeth ar gyfer defnyddwyr presennol GwerthwchiGymru.

0800 222 9004

Lines are open 8:30am to 5pm Monday to Friday.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.