Cynhelir y digwyddiad hwn gan Trafnidiaeth Cymru a Dŵr Cymru, a bydd yn rhoi cyfle i chi rwydweithio a chymryd rhan mewn trafodaethau ar sut y gall y diwydiant gydweithredu i leihau allyriadau carbon yn achos prosiectau seilwaith mawr.
Manylion y digwyddiad:
Dyddiad: Dydd Mawrth 24 Medi 2019
Amser: 8:30 am-11:30 am
Lleoliad: Stadiwm Dinas Caerdydd, Heol Lecwydd, Caerdydd, CF11 8AZ
Yn y gweithdy hwn byddwch yn:
• Clywed gan Dŵr Cymru am ei weledigaeth ar gyfer 2050, y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd i gyflawni hyn, ynghyd â'r disgwyliadau a'r gofynion o ran y gadwyn gyflenwi
• Clywed am ffocws a thargedau lleihau carbon Trafnidiaeth Cymru, beth y mae hyn yn ei olygu i'r gadwyn gyflenwi, a sut y gallwch helpu
• Deall beth y gellir ei wneud i sicrhau datgarboneiddio 'nawr ac yn y dyfodol, a pha gymorth sydd ar gael i gyflawni hyn
• Clywed am safbwynt cyflenwyr ynghylch gwneud rhagor o ddefnydd o goncrit carbon isel, beth yw eu camau nesaf o ran cyflawni hyn, a sut y gallwch helpu
• Dysgu ac yn rhannu eich profiadau ag eraill am yr heriau a'r cyfleoedd i leihau carbon, a hynny mewn gweithgareddau rhwydweithio
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Rosie neu Becky, neu ffoniwch 0207 697 1977.
Diolch yn fawr,
Tîm Ysgol y Gadwyn Gyflenwi
First published
12 August 2019
Last updated
07 March 2024