Gan fod y DU yn debygol o adael yr UE ar 31 Hydref, rydym wedi penderfynu gohirio digwyddiad Procurex Cymru eleni, y bwriadwyd ei gynnal yn Arena Motorpoint Caerdydd ar 7 Tachwedd 2019, tan 18 Mawrth 2020.
Bydd hyn yn symud Procurex Cymru ymhellach oddi wrth ddyddiad terfynol Brexit fel ein bod yn rhoi'r sylw a'r adnoddau sydd eu hangen ar y digwyddiad er mwyn iddo fod yn llwyddiant a hwyluso'r cyfranogiad mwyaf gan y gymuned prynwyr a chyflenwyr o bob cwr o Gymru.
Ac eithrio'r dyddiad newydd, bydd y digwyddiad yr un fath â'r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol.
Bydd Gwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) am Ragoriaeth ym Maes Caffael Cyhoeddus yng Nghymru hefyd yn cael eu cynnal gyda'r hwyr ar 18 Mawrth yng Ngwesty Mercure yng Nghaerdydd.
Gyda'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi'i chadarnhau fel un o'r siaradwyr a chymaint yn digwydd ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru dros y misoedd nesaf, mae'r digwyddiad yn argoeli i fod yn gyfle ardderchog i ddysgu a rhwydweithio. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i ddigwyddiad Procurex a Gwobrau GO Cymru ar 18 Mawrth 2020 yng Nghaerdydd.
Darganfyddwch fwy trwy glicio yma
First published
22 August 2019
Last updated
07 March 2024