Opsiwn Un:
Dyddiad: 18 Medi 2019
Amser: 10:30am – 3:30pm
Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Coed-y-Brenin, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2HZ
Opsiwn Dau:
Dyddiad: 19 Medi 2019
Amser: 10:30am – 3:30 pm
Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Garwnant, Merthyr Tudful, CF48 2HU
Mae’n ofynnol i CNC gael Gwasanaeth Cynaeafu Cynhyrchu Uniongyrchol, sy’n cynnwys cwympo, prosesu a chludo coed i ymyl y ffordd, er mwyn cefnogi contractau pren ymyl y ffordd. Unwaith y bydd y fframwaith cyfredol wedi dod i ben, bydd CNC yn dyfarnu contractau drwy System Brynu Ddynamig (DPS) i gontractwyr llwyddiannus a fydd yn cynllunio gweithrediadau cynaeafu ledled Cymru.
Mae CNC yn dymuno estyn gwahoddiad i gyflenwyr â diddordeb i ddod i’r sesiynau ymgysylltu i drafod y broses dendro Cynaeafu Cynhyrchu Uniongyrchol (DPS) a gynhelir yn fuan, a rhaglenni gwaith i’r dyfodol.
Digwyddiad ‘galw heibio’ fydd hwn, felly ni fydd agenda penodol. Fodd bynnag, disgwylir i gyflenwyr gofrestru ar ôl cyrraedd, a bydd gwybodaeth ynglŷn â’r System Brynu Ddynamig ar gael. Bydd cyfle i gael trafodaeth anffurfiol â chynrychiolwyr Busnes Cymru a CNC ynglŷn â gofynion y prosiect, ac i ddysgu am y cymorth sydd ar gael.
Er mwyn mynychu’r digwyddiad di-dâl hwn bydd angen ichi e-bostio eich manylion a’ch dewis opsiwn i: procurement.ops@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk cyn 16/09/19.
First published
23 August 2019
Last updated
07 March 2024