23 Hydref 2019, 09:00 - 17:00 - Caerdydd
Cost: Am ddim
I gefnogi’r gwaith o gyflawni dau becyn gwaith sylweddol:
• Canolfan Reoli Integredig a Gwaith Galluogi Ffynnon Taf
• Adeiladu a Moderneiddio Gorsafoedd ar Reilffyrdd Craidd y Cymoedd
Rydym yn annog cyflenwyr i ddod draw i’n digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr i gwrdd ag aelodau o'n timau cyflawni, trafod cyfleoedd a chwblhau ein Holiadur Cyn-gymhwyso i Gyflenwyr.
Bydd Busnes Cymru hefyd yn bresennol i gynnig hyfforddiant a chymorth i fynychwyr sy’n dymuno cwblhau ein holiadur.
Digwyddiad galw heibio, anffurfiol yw hwn ac nid oes angen trefnu apwyntiad.
Mae’r cyfleoedd yn cynnwys:
• Gosod rhwystrau
• Darpariaeth ar gyfer beiciau
• Gwaith brics – cladin ar wyneb mewnol Unedau-L yn Ffynnon Taf
• Uniadau pont
• Amlen adeilad
• CCTV
• Torri concrid
• Arbenigwyr llawr concrid
• Gwaith craen
• Cyflenwyr craeniau (ffordd a rheilffordd)
• Drilio diemwnt
• Diogelwch/gosodion a ffitiadau drysau/ffenestri
• Cladin allanol
• Ffensio
• System larwm tân
• Gorchuddion llawr
• Ffurfwaith
• Diffodd tân â nwy
• Cynnal daear
• Tirlunio caled a meddal
• Gwresogi ac awyru
• Gosod cyrbau
• Lifftiau
• Mecanyddol a thrydanol/goleuo/DNO (pŵer i’r orsaf)
• Gwaith dur sylweddol – pontydd troed/rampiau/adeileddau cynnal/pentyrrau haenau
• Cyflenwi a gosod systemau mecanyddol a thrydanol
• Paentio ac addurno
• Parwydydd/waliau stydiau
• PID – systemau gwybodaeth i deithwyr
• Pyst
• Gwaith platiwr/haen sgim
• Systemau platfform/deunyddiau (ar gyfer hunan-osod)
• Plymwaith
• Concrid wedi’i rag-gastio – Unedau-L (o bosib y ddwy ochr) a thrawstiau pont (Gelynis)
• Systemau sain
• Sgaffaldau
• Cyflenwi a gosod paneli solar
• Gosod gwaith dur
• Cynhyrchu/adeiladu gwaith dur
• Goleuadau stryd
• Lloriau crog
• Toiledau (modwlar)
• Rheoli traffig
• Bolardiau cerbydau
• Cysgodfannau/ystafelloedd aros/dodrefn/biniau
• Wynebau gwrth-ddŵr
• Marcio llinellau gwyn
• Wifi
First published
09 October 2019
Last updated
07 March 2024