Skip to main content

We've saved some files called cookies on your device. These cookies are:

  • essential for the site to work
  • to help improve our website by collecting and reporting information on how you use it

We would also like to save some cookies to help tailor communications.

BETA
You're viewing an updated version of this service - your feedback will help us to improve it.

Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol

First published:
23 February 2018
Last updated:
07 March 2024
Mae Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yr UE yn dod i rym ar 25 Mai 2018. Mae'r rheoliadau'n cyflwyno dirwyon llymach am beidio â chydymffurfio ac am fynediad diawdurdod at ddata, a bydd yn rhoi mwy o gyfle i ddinasyddion leisio barn ynghylch yr hyn y gall sefydliadau ei wneud gyda'u data personol. Bydd y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn gwneud rheoliadau diogelu data ledled yr UE yn gydnaws a'u nod yw diogelu dinasyddion yr UE rhag achosion o dorri rheoliadau preifatrwydd a mynediad at ddata, drwy roi amrywiaeth o rwymedigaethau newydd ar sefydliadau er mwyn sicrhau eu bod yn fwy atebol am ddiogelu data. Gallai sefydliadau y canfyddir eu bod wedi torri rheolau'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol newydd arwain at wynebu dirwyon mawr. Bydd gan sefydliadau gyfrifoldebau ychwanegol i'r rhai a roddwyd ar y broses gaffael (megis asesu'r math o ddata sydd ganddynt a'r sail gyfreithiol i wneud hyn, a delio â Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth). Pryd bynnag y bydd rheolwr yn defnyddio prosesydd mae'n rhaid bod contract ysgrifenedig ar waith. O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'n rhaid i gontractau nodi'r canlynol: 1. Y pwnc a hyd y prosesu 2. Natur a diben prosesu 3. Math o ddata personol a chategorïau o bynciau data a 4. Rhwymedigaethau a hawliau'r rheolwr. Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn caniatáu i gymalau cytundebol safonol gan Gomisiwn yr UE neu awdurdod goruchwyliol (megis Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth), gael eu defnyddio mewn contractau rhwng rheolwyr a proseswyr
First published
23 February 2018
Last updated
07 March 2024

0800 222 9004

Lines are open 8:30am to 5pm Monday to Friday.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.