Skip to main content

We've saved some files called cookies on your device. These cookies are:

  • essential for the site to work
  • to help improve our website by collecting and reporting information on how you use it

We would also like to save some cookies to help tailor communications.

BETA
You're viewing an updated version of this service - your feedback will help us to improve it.

Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd? (ESPD)

First published:
04 April 2018
Last updated:
07 March 2024
Beth yw'r Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd? (ESPD) Gwnaeth Cyfarwyddebau Caffael y DU ddarpariaeth ar gyfer cyflwyno Dogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd y mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn bwriadu ei defnyddio i ddileu rhywfaint o'r rhwystrau i gymryd rhan mewn prosesau caffael cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer BBaChau. Mae'r Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd yn hunanddatganiad o statws ariannol darpar gyflenwr, ei alluoedd a'i addasrwydd ar gyfer gweithdrefn gaffael gyhoeddus. Caiff ei defnyddio'n bennaf fel tystiolaeth ragarweiniol y caiff yr amodau sy'n ofynnol mewn gweithdrefnau caffael cyhoeddus eu cyflawni. Nid oes rhaid i'r sawl sy'n cyflwyno cynnig bellach ddarparu tystiolaeth ddogfennol lawn na'r ffurflenni gwahanol a ddefnyddiwyd yn flaenorol ym mhroses gaffael yr UE, sy'n golygu bod y broses dendro yn symlach o lawer. Bydd y Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd yn disodli'r gofyniad i gyflenwyr ddarparu tystiolaeth neu dystysgrifau ymlaen llaw gan eu galluogi i hunanddatgan eu bod wedi bodloni'r detholiad perthnasol a'r meini prawf gwahardd. Gellir gofyn i'r sawl sy'n cyflwyno cynnig ddarparu tystiolaethol o hyn nes ymlaen a bydd angen i'r cynigydd llwyddiannus fel arfer ddarparu tystiolaeth cyn y gellir dyfarnu'r contract. Sut y bydd y broses newydd yn gweithio? Bydd prynwyr yn pennu eu meini prawf dethol a gwahardd, gan gynnwys unrhyw safonau gofynnol a dulliau ar gyfer llunio rhestr fer yn eu hysbysiad contract. Yna, byddant yn cyflwyno cais am Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd a sicrhau ei bod ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyflwyno cynnig ar gyfer y contract. Bydd cynigwyr yn llunio ac yn cyflwyno eu hymateb i'r Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd i'r prynwr, a fydd yn asesu addasrwydd pob cynnig yn erbyn y meini prawf a ddewiswyd ganddynt. Beth am Holiaduron Dethol? Bydd y Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd yn cynnig dewis amgen i'r holiadur dethol, a dylai'r broses o wneud cais am gontract fod yn haws. Ei diben yw dileu rhywfaint o'r rhwystrau sy'n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer caffael cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer BBaChau nad oes ganddynt, yn aml, yr adnoddau (amser/arian) i gwblhau dogfennau tendro cymhleth. Roedd y dull Holiadur Dethol yn boblogaidd am fod prynwyr yn dueddol o ofyn cwestiynau yn yr un ffordd neu'n debyg. Bydd y Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd yn adeiladu ar hyn gan fod yr un ffurflen safonol bellach yn cael ei defnyddio ledled Ewrop A fydd yn rhaid cyflwyno Dogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd newydd ar gyfer pob tendr? Caiff yr un set o gwestiynau ei defnyddio ledled y UE, felly bydd cynigydd yn gallu ail ddefnyddio ffurflen a gafodd ei chyflwyno yn flaenorol ar gyfer cystadleuaeth ar wahân, cyhyd ag y bydd y wybodaeth yn dal yn gyfredol. Fodd bynnag, bob tro y bydd cyflenwr yn cyflwyno cynnig, bydd yn rhaid cyhoeddi Dogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd hefyd. Bydd o fudd i'r cyflenwr ffurfweddu pob Dogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd er mwyn gweddu â gofynion yr ymarfer caffael unigol hwnnw. Sut y caiff y Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd ei gwirio i sicrhau cywirdeb? Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i'r cynigydd llwyddiannus gyflwyno'r holl dystysgrifau a'r dogfennau sy'n ofynnol, cyn y gellir dyfarnu contract iddynt. Gellir hefyd gofyn i gynigwyr gyflwyno eu tystiolaeth ar unrhyw adeg yn ystod y broses gaffael os bydd angen hyn er mwyn sicrhau y caiff y broses ei chynnal yn gywir. Os bydd cynigydd wedi camliwio ei hun, gall rhywfaint o bethau ddigwydd, yn dibynnu ar natur y camliwio. - Os bydd cynigydd yn torri rheolau un o'r meysydd sy'n sail orfodol ar gyfer gwahardd, neu os nad yw'n bodloni'r un o'r meini prawf dethol gofynnol, yna, mae'n rhaid gwahardd y cynigydd hwnnw o'r gystadleuaeth. Yn dibynnu ar natur a cham y gystadleuaeth, gall hynny olygu naill ai y bydd yn parhau heb y cynigydd hwnnw, neu y dylid ail gynnal y gystadleuaeth heb dendr y cynigydd hwnnw. - Os bydd yn dod i'r amlwg bod busnes yn torri rheolau maes sy'n sail ddewisol ar gyfer gwahardd, yna yr awdurdod prynu fydd yn penderfynu p'un a ddylid gwahardd y cynigydd hwnnw ai peidio. Rhaid i'r penderfyniad hwn gael ei wneud yn unol ag Egwyddorion Cytundeb y DU o ran tryloywder, cymesuredd, triniaeth gyfartal a pheidio â gwahaniaethu. - Os bydd y mater yn fwy gweinyddol ei natur (e.e. camgymeriadau o ran darparu'r ddogfennaeth), yna bydd gan yr awdurdod yr opsiwn o wahodd y cynigydd i wneud addasiadau, neu egluro'r ddogfennaeth a ddarparwyd. A fydd y Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd yn effeithio ar is-gontractwyr? Os bydd cynigydd yn dymuno is-gontractio fel rhan o gontract, ac yn dibynnu’n llwyr ar yr is-gontractwr er mwyn bodloni'r meini prawf dethol, rhaid i Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd ar wahân gael ei chyflwyno ar ran yr is-gontractwr. Gall yr awdurdod prynu ddewis gofyn am Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd ar wahân gan unrhyw is-gontractwr arall, er mwyn cadarnhau p'un a oes seiliau ar gyfer ei wahardd ai peidio. Os bydd is-gontractwr mewn sefyllfa lle y byddai'n arwain at waharddiad gorfodol, bydd gofyn i'r cynigydd ddefnyddio is-gontractwr arall yn ei le. Mae'n bwysig iawn bod y cyflenwyr yn cynllunio ar gyfer y sefyllfa hon yn gynnar yn y broses drwy ymgysylltu ag is-gontractwyr a chael gwybodaeth yn gynnar yn y broses gaffael. Dogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd neu Holiadur Dethol? Gall fod rhywfaint o ddryswch yn ystod y cyfnod pontio o'r Holiadur Cyn-gymhwyso (PQQ) Safonol i'r Holiadur Dethol i'r Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd. O 26 Medi 2016, dylai cyflenwyr ond dderbyn (ar y cyfan) yr Holiadur Dethol ond mae ganddynt hawl i gyflwyno Dogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd os oes ganddynt un eisoes.
First published
04 April 2018
Last updated
07 March 2024

0800 222 9004

Lines are open 8:30am to 5pm Monday to Friday.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.