Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates fod mwy na 150 o sefydliadau wedi mabwysiadu Cod Ymarfer Arloesol Llywodraeth Cymru, gan helpu i sicrhau gwell amodau gweithio ar draws cadwyni cyflenwi.
Bydd y Gweinidog yn siarad mewn digwyddiad yn Wrecsam i nodi'r garreg filltir hon, y llwyddwyd i'w chyrraedd lai na dwy flynedd ar ôl i'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi gael ei lansio gyntaf ym mis Mawrth 2017.
Mae'r Cod yn gofyn i sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ymrwymo i gyfres o gamau sydd â’r nod o fynd i'r afael ag arferion cyflogaeth ac arferion gweithio anghyfreithlon ac annheg.
First published
10 January 2019
Last updated
07 March 2024