Description of the goods or services required
Mae’r Ganolfan yn dymuno comisiynu cwmni i gynnal gwerthusiad o’r Cynllun ‘Cymraeg Gwaith’ wrth i’r cynllun weithredu yn ei bumed flwyddyn. Mae’r Cynllun wedi derbyn dau werthusiad ers ei fodolaeth, un ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf (2017-18) a’r ail ar ddiwedd y drydydd flwyddyn (2019-20).
Dylai’r gwerthusiad asesu effaith y cynllun, gan ganolbwyntio ar effeithiolrwydd y cynllun wrth ymateb i heriau megis y pandemig, heriau cyllidol a disgwyliadau cyflogwyr amrywiol. Dylai’r gwerthusiad hefyd archwilio beth all dyfodol y cynllun fod, ac os oes unrhyw rwystrau i gyflawni’r potensial.
Bu i’r gwerthusiad diwethaf adnabod mai un o gryfderau y cynllun oedd ei waith partneriaethol, ac un o’r cynlluniau hynny sydd wedi datblygu llawer yw’r cydweitho gyda’r sector Gofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar. Dylai’r gwerthusiad ystyried pa mor effeithiol mae ymyrraeth y Cynllun wedi bod yn sector penodol hwn ac ystyried a oes sectorau eraill lle gallai’r Cynllun gael ei ddatblygu/ymestyn yn llwyddiannus.
Y prif nod y disgwylir i bob cais anelu ato yw cynnal gwerthusiad o gynllun Cymraeg Gwaith 2021-22.
Yn ogystal disgwylir i’r gwerthusiad ystyried y canlynol:
A ydy Cymraeg Gwaith yn cyflawni amcan strategol Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr
A yw Cymraeg Gwaith yn gyfrwng i brif ffrydio’r Gymraeg o fewn meysydd gwaith amrywiol Llywodraeth Cymru gan ychwanegu at werth ac allbynnau’r grant gwreiddiol.
Beth yw’r potensial i’r cynllun ymestyn ei weithgaredd i’r dyfodol, ac a oes sectorau sy’n cynnig eu hunain fel sectorau y dylai’r Ganolfan eu blaenoriaethu.
NOTE: To register your interest in this notice and obtain any additional information please visit the Sell2Wales Web Site at https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=115922.
|