Skip to main content

We've saved some files called cookies on your device. These cookies are:

  • essential for the site to work
  • to help improve our website by collecting and reporting information on how you use it

We would also like to save some cookies to help tailor communications.

BETA
You're viewing an updated version of this service - your feedback will help us to improve it.

Contract Notice

Gwahoddiad i ddarparu pris am ymgynghorydd prentisiaethau

  • First published: 04 August 2026
  • Last modified: 04 August 2026
  • Version: N/A
  • Record interest

     

  • This file may not be fully accessible.

  •  

Information icon

Documents for this notice are only available to suppliers who have noted interest.

To access the documents, please click the "Note Interest" button above to add this notice to your Current Notices.

Contents

Summary

OCID:
ocds-kuma6s-168726
Published by:
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Authority ID:
AA0753
Publication date:
04 August 2026
Deadline date:
16 September 2026
Notice type:
Contract Notice
Has documents:
Yes
Has SPD:
No
Has Carbon Reduction Plan:
No

Abstract

Gwahoddiad i ddarparu pris am ymgynghorydd prentisiaethau Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dymuno penodi contractwr sydd â dealltwriaeth drylwyr o’r maes prentisiaethau ac yn benodol prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog er mwyn cwblhau gwaith ymchwil, ysgrifennu adroddiad a chreu cynllun gweithredu fydd yn cael ei ddefnyddio gan staff y Coleg ac eraill i gynyddu nifer y prentisiaid yn y sector prentisiaethau sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylid cyflwyno’r cais erbyn 12:00 ar ddydd 16/9/2026 CYFLWYNIAD Mae’r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ry’n ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg. Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog. I ddarllen mwy am waith y Coleg, ewch i’n gwefan www.colegcymraeg.ac.uk. CEFNDIR Mae Medr a darparwyr dysgu seiliedig ar waith wedi ymrwymo i gynyddu cyfleoedd i brentisiaid gyflawni eu dysgu a’u hyfforddiant drwy’r Gymraeg. Er bod cynnydd da wedi’i wneud yn y ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar y lefelau is ar B3 a chynnydd cadarnhaol ar lefelau uwch mewn sectorau penodol, mae nifer sylweddol o brentisiaid sy’n meddu ar sgiliau Cymraeg yn dewis, neu’n cael eu cyfeirio at, lwybrau hyfforddi drwy’r Saesneg. Mae angen ymchwil manwl i ddeall yr hyn sy’n rhwystro cyfran uwch o brentisiaid rhag defnyddio’r Gymraeg, a nodi dulliau ymarferol i gynyddu cyfran y ddarpariaeth Gymraeg ar draws sectorau a chyfran y prentisiaid sy’n dilyn y ddarpariaeth. Yn ystod ymgynghoriad diweddar gan Medr ar ddiwygio’r fframweithiau prentisiaethau, nodwyd nifer o awgrymiadau gan randdeiliaid yno mewn perthynas a’r Gymraeg. Gweler yr awgrymiadau fan hyn. Yn ei faniffesto ar gyfer Etholiad Mai 2026, nododd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yr angen am Gynllun newydd i ysgogi cynnydd sylweddol mewn prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae’r Coleg wedi ysgogi cynnydd mewn gweithgareddau dysgu dwyieithog yn y sector prentisiaethau. Ond mae rhwystrau systemig a diffyg hyder yn atal prentisiaid rhag dilyn llwybrau sydd yn cynnig cyfle i gynnal a datblygu eu sgiliau yn y Gymraeg. Mae’r maniffesto yn nodi’r angen i ddatblygu cynllun strategol i oresgyn y rhwystrau hyn, gan flaenoriaethu sectorau ac ardaloedd daearyddol lle gellir gwneud y gwahaniaeth mwyaf mewn byr amser. Bydd allbwn yr ymgynghorydd yn cynorthwyo’r Coleg i gyrraedd at y nod hwn. Bydd disgwyliad i’r contractwr llwyddiannus ystyried hyn a’r cyd-destun polisi ehangach wrth ysgrifennu’r cynllun gweithredu terfynol. MANYLEB Amcanion y Prosiect • Mapio’r sefyllfa bresennol o ran defnydd o’r Gymraeg mewn prentisiaethau ar draws sectorau a lefelau. o Pa ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd? o Ble mae’r ddarpariaeth yn ddaearyddol ac o fewn pa ddarparwr? o Ym mha feysydd ac ar ba lefelau mae’r ddarpariaeth (gan ganolbwyntio ar lefelau 2-6 yn y man cyntaf ac yna prentisiaethau gradd)? o Faint o brentisiaid sy’n meddu ar gymhwyster TGAU iaith gyntaf ar draws yr uchod i nodi’r pwll potensial? • Pa brif gyflogwyr yn y sectorau iechyd a gofal, blynyddoedd cynnar, awdurdodau lleol a heddlua sy’n cyflogi prentisiaid? • Ble mae’r cyflogwyr yn ddaearyddol? o Oes bylchau yn erbyn anghenion cyflogwyr a defnyddwyr gwasanaeth mewn sectorau blaenoriaeth ac ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch? • Mapio’r sefyllfa bresennol o ran staffio mewn perthynas â’r Gymraeg • Beth yw’r sefyllfa staffio yn y darparwyr a’r gweithle i gefnogi prentisiaid i gwblhau’r brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog? Ble mae bylchau? Beth yw’r bwlch? Tiwtor, aseswr, IQA, EQA? • Adnabod y rhwystrau sy’n atal darpar brentisiaid a phrentisiaid rhag dewis y Gymraeg (e.e. diffyg hyder, diffyg aseswyr Cymraeg, arferion cyfeirio, diwylliant gweithle, heriau systemig e.e. codio data, fframweithiau ac ati). Nid ffocws y prosiec

Full notice text

CONTRACT NOTICE – NATIONAL

SERVICES

1 Authority Details

1.1

Authority Name and Address


Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Y Llwyfan, Heol y Coleg,

Carmarthen

SA31 3EQ

UK

Dr Lowri Morgans

+44 267610402


http://www.colegcymraeg.ac.uk

1.2

Address from which documentation may be obtained


Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Y Llwyfan, Heol y Coleg,

Carmarthen

SA31 3EQ

UK

Dr Lowri Morgans

+44 267610402

l.morgans@colegcymraeg.ac.uk

http://www.colegcymraeg.ac.uk

1.3

Completed documents must be returned to:


Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Y Llwyfan, Heol y Coleg,

Carmarthen

SA31 3EQ

UK

Dr Lowri Morgans

+44 267610402

l.morgans@colegcymraeg.ac.uk

http://www.colegcymraeg.ac.uk

2 Contract Details

2.1

Title

Gwahoddiad i ddarparu pris am ymgynghorydd prentisiaethau

2.2

Description of the goods or services required

Gwahoddiad i ddarparu pris am ymgynghorydd prentisiaethau

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dymuno penodi contractwr sydd â dealltwriaeth drylwyr o’r maes prentisiaethau ac yn benodol prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog er mwyn cwblhau gwaith ymchwil, ysgrifennu adroddiad a chreu cynllun gweithredu fydd yn cael ei ddefnyddio gan staff y Coleg ac eraill i gynyddu nifer y prentisiaid yn y sector prentisiaethau sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dylid cyflwyno’r cais erbyn 12:00 ar ddydd 16/9/2026

CYFLWYNIAD

Mae’r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ry’n ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.

Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.

I ddarllen mwy am waith y Coleg, ewch i’n gwefan www.colegcymraeg.ac.uk.

CEFNDIR

Mae Medr a darparwyr dysgu seiliedig ar waith wedi ymrwymo i gynyddu cyfleoedd i brentisiaid gyflawni eu dysgu a’u hyfforddiant drwy’r Gymraeg. Er bod cynnydd da wedi’i wneud yn y ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar y lefelau is ar B3 a chynnydd cadarnhaol ar lefelau uwch mewn sectorau penodol, mae nifer sylweddol o brentisiaid sy’n meddu ar sgiliau Cymraeg yn dewis, neu’n cael eu cyfeirio at, lwybrau hyfforddi drwy’r Saesneg. Mae angen ymchwil manwl i ddeall yr hyn sy’n rhwystro cyfran uwch o brentisiaid rhag defnyddio’r Gymraeg, a nodi dulliau ymarferol i gynyddu cyfran y ddarpariaeth Gymraeg ar draws sectorau a chyfran y prentisiaid sy’n dilyn y ddarpariaeth.

Yn ystod ymgynghoriad diweddar gan Medr ar ddiwygio’r fframweithiau prentisiaethau, nodwyd nifer o awgrymiadau gan randdeiliaid yno mewn perthynas a’r Gymraeg. Gweler yr awgrymiadau fan hyn.

Yn ei faniffesto ar gyfer Etholiad Mai 2026, nododd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yr angen am Gynllun newydd i ysgogi cynnydd sylweddol mewn prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Mae’r Coleg wedi ysgogi cynnydd mewn gweithgareddau dysgu dwyieithog yn y sector prentisiaethau. Ond mae rhwystrau systemig a diffyg hyder yn atal prentisiaid rhag dilyn llwybrau sydd yn cynnig cyfle i gynnal a datblygu eu sgiliau yn y Gymraeg. Mae’r maniffesto yn nodi’r angen i ddatblygu cynllun strategol i oresgyn y rhwystrau hyn, gan flaenoriaethu sectorau ac ardaloedd daearyddol lle gellir gwneud y gwahaniaeth mwyaf mewn byr amser. Bydd allbwn yr ymgynghorydd yn cynorthwyo’r Coleg i gyrraedd at y nod hwn.

Bydd disgwyliad i’r contractwr llwyddiannus ystyried hyn a’r cyd-destun polisi ehangach wrth ysgrifennu’r cynllun gweithredu terfynol.

MANYLEB

Amcanion y Prosiect

• Mapio’r sefyllfa bresennol o ran defnydd o’r Gymraeg mewn prentisiaethau ar draws sectorau a lefelau.

o Pa ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd?

o Ble mae’r ddarpariaeth yn ddaearyddol ac o fewn pa ddarparwr?

o Ym mha feysydd ac ar ba lefelau mae’r ddarpariaeth (gan ganolbwyntio ar lefelau 2-6 yn y man cyntaf ac yna prentisiaethau gradd)?

o Faint o brentisiaid sy’n meddu ar gymhwyster TGAU iaith gyntaf ar draws yr uchod i nodi’r pwll potensial?

• Pa brif gyflogwyr yn y sectorau iechyd a gofal, blynyddoedd cynnar, awdurdodau lleol a heddlua sy’n cyflogi prentisiaid?

• Ble mae’r cyflogwyr yn ddaearyddol?

o Oes bylchau yn erbyn anghenion cyflogwyr a defnyddwyr gwasanaeth mewn sectorau blaenoriaeth ac ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch?

• Mapio’r sefyllfa bresennol o ran staffio mewn perthynas â’r Gymraeg

• Beth yw’r sefyllfa staffio yn y darparwyr a’r gweithle i gefnogi prentisiaid i gwblhau’r brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog? Ble mae bylchau? Beth yw’r bwlch? Tiwtor, aseswr, IQA, EQA?

• Adnabod y rhwystrau sy’n atal darpar brentisiaid a phrentisiaid rhag dewis y Gymraeg (e.e. diffyg hyder, diffyg aseswyr Cymraeg, arferion cyfeirio, diwylliant gweithle, heriau systemig e.e. codio data, fframweithiau ac ati). Nid ffocws y prosiect hwn fydd ymchwilio o’r newydd i’r rhwystrau. Rhagwelwn y gall y contractwr llwyddiannus wneud gwaith pen desg er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa, ond bydd angen gwneud peth gwaith maes gan gynnwys grwpiau ffocws a chyfweliadau. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon hefyd i fwydo mewn i ymatebion i ymgynghoriadau perthnasol.

• Adnabod cyfleoedd lle mae potensial uchel i gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg oddi fewn i ddarparwyr a hefyd cyflogwyr sy’n cefnogi prentisiaid. Ystyried sut gellid gwneud hyn yng nghyd-destun y grantiau newydd gan Medr. Dylid ystyried hefyd sut gellid annog mwy o gyflogwyr i gefnogi prentisiaid i gwblhau eu prentisiaeth yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

• Ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol (darparwyr, ymarferwyr, aseswyr, cyflogwyr, prentisiaid presennol a darpar brentisiaid, NTFW, Colegau Cymru a Medr).

• Gweithredu fel pwynt cyswllt o fewn y Coleg ar gyfer materion yn ymwneud â phrentisiaethau yn ystod cyfnod yr ymchwil a’r ysgrifennu.

• Cynhyrchu argymhellion system gyfan ar gyfer cynyddu nifer y prentisiaid sy’n dilyn eu prentisiaeth drwy’r Gymraeg a chynyddu’r ddarpariaeth gyfan trwy gyfrwng y Gymraeg.

• Datblygu cynllun gweithredu 12–24 mis i’r Coleg ar sail canfyddiadau’r ymchwil.

Cwmpas y Prosiect

Bydd y prosiect yn cwmpasu:

o Prentisiaethau yng Nghymru yn y meysydd blaenoriaeth (iechyd a gofal, blynyddoedd cynnar, awdurdodau lleol a heddlua) lle mae darpariaeth Gymraeg yn isel neu’n anwastad.

o Ymchwil pen desg, a defnyddio a dadansoddi data presennol gan gynnwys LLWR, cofnodion dysgwyr, cyfraddau trosi, tueddiadau sectorol a darpariaeth asesu er mwyn deall ble mae’r potensial.

o Cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda:

 phrentisiaid sy’n dysgu drwy’r Gymraeg

 prentisiaid sy’n meddu ar sgiliau Cymraeg ond nad ydynt yn eu defnyddio

 cyflogwyr sector gyhoeddus a blynyddoedd cynnar sy’n recriwtio prentisiaid

 aseswyr / darparwyr hyfforddiant

 NTFW, ColegauCymru, Medr

o Asesu’r potensial i gynyddu darpariaeth mewn gwahanol sectorau ac ar wahanol lefelau.

o Dadansoddi cymariaethol ag arferion da sydd eisoes yn digwydd mewn darparwyr neu sectorau llwyddiannus.

Allbynnau’r Prosiect

• Dogfen ‘twlcit’ ar gyfer darparwyr

Disgwylir dogfen sy’n cynnwys camau gweithredu pendant i rannu gyda darparwyr er mwyn codi’r ganran o brentisiaid sydd yn meddu ar gymhwyster TGAU iaith gyntaf sy’n cyrraedd B2, B1 ac uwch ar LP88 sef faint o’r fframwaith sy’n cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg.

• Nodiadau briffio i‘r Coleg

• Nodyn briffio i randdeiliaid (e.e. darparwyr, Medr, Cymwysterau Cymru)

• Gweminar yn cyflwyno canfyddiadau i randdeiliaid allweddol

• Crynodeb gweithredol

• Cynllun gweithredu 12–24 mis gyda chamau, amserlen a chostau bras

Amserlen

• Hyd y prosiect: 9 mis

Camau

o Mis 1-2: Casglu data a mapio’r sefyllfa

o Mis 3–4: Cyfweliadau a grwpiau ffocws

o Mis 5-6: Dadansoddi a drafftio

o Mis 7: Cyflwyno crynodeb gweithredol a'r cynllun gweithredu 12-24 mis

o Mis 8: Cyflwyno ‘twlcit’ ar gyfer darparwyr yn cynnwys camau gweithredu pendant, a nodiadau briffio i randdeiliaid, a chyflwyno gweminar

o Mis 9: Casglu data a mapio’r sefyllfa, cynnal cyfweliadau, dadansoddi a chwblhau adroddiad am brentisiaethau gradd

Cost y Prosiect £28,000

AMSERLEN

Dyddiad cychwyn y gwaith/prosiect/gwasanaeth 1 Hydref 2026

Dyddiad cwblhau’r gwaith 30 Mehefin 2027

CANLLAWIAU YMATEB I’R BRIFF

Gofynnwn i chi ddarparu’r canlynol wrth ymateb i’r briff hwn:

• Datganiad fod gennych y capasiti i gwblhau’r gwaith o fewn yr amserlen a nodwyd.

• Esiamplau o waith tebyg a gwblhawyd gennych eisoes.

• Dyfynbris ar gyfer y gwaith (yn cynnwys TAW). Gofynnwn i chi ddarparu pris fesul diwrnod os yn bosib.

• Ymatebion i’w cyflwyno at Dr Lowri Morgans, Uwch Reolwr Addysg Bellach a Phrentisiaethau trwy e-bost l.morgans@colegcymraeg.ac.uk

DYDDIAD CAU CYFLWYNO PRIS

• 12:00 dydd 16/09/2026

NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=168726 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

2.3

Notice Coding and Classification

80000000 Gwasanaethau addysg a hyfforddiant
1000 CYMRU
1010 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
1011 Ynys Môn
1012 Gwynedd
1013 Conwy a Sir Ddinbych
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1015 Cymoedd Canalog (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf)
1016 Cymoedd Gwent (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili)
1017 Pen-y-bont ar Ogwr a Castell-Nedd Port Talbot
1018 Abertawe
1020 Dwyrain Cymru
1021 Sir Fynwy a Chasnewydd
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg
1023 Sir y Fflint a Wrecsam
1024 Powys

2.4

Total quantity or scope of tender

Cost y Prosiect £28,000 yn cynnwys TAW

3 Conditions for Participation

3.1

Minimum standards and qualification required

Dylech brofi yn eich Tendr fod gennych hyfedredd ddigonol i fedru cynnig y gwasanaethau a ddisgrifir yn y Gymraeg.

4 Administrative Information

4.1

Type of Procedure

Single stage

4.2

Reference number attributed to the notice by the contracting authority

N/a

4.3

Time Limits

Time-limit for receipt of completed tenders
    16-09-2026  Time  12:00

Estimated award date
 23-09-2026

4.5

Language or languages in which tenders or requests to participate can be drawn up

CY 

4.6

Tender Submission Postbox

5 Other Information

5.1

Additional Information

(WA Ref:168726)

Mae'r prynwr yn ystyried bod y contract hwn yn addas ar gyfer ceisiadau consortia.

5.2

Additional Documentation

Manyleb Cais am Dri PhrisYmgynghoryddPrentisiaethau

5.3

Publication date of this notice

 04-08-2026

Coding

Commodity categories

ID Title Parent category
80000000 Education and training services Education

Delivery locations

ID Description
1017 Bridgend and Neath Port Talbot
1022 Cardiff and Vale of Glamorgan
1015 Central Valleys (Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf)
1013 Conwy and Denbighshire
1020 East Wales
1023 Flintshire and Wrexham
1016 Gwent Valleys (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerphilly)
1012 Gwynedd
1011 Isle of Anglesey
1021 Monmouthshire and Newport
1024 Powys
1014 South West Wales (Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion)
1018 Swansea
1000 WALES
1010 West Wales and The Valleys

Alert region restrictions

The buyer has restricted the alert for this notice to suppliers based in the following regions.

ID Description
There are no alert restrictions for this notice.

About the buyer

Main contact:
N/a
Admin contact:
l.morgans@colegcymraeg.ac.uk
Technical contact:
N/a
Other contact:
l.morgans@colegcymraeg.ac.uk

Further information

Date Details
No further information has been uploaded.

Q&A

Ask the buyer any questions you may have relating to this notice. To ask the buyer a question or questions please click the "View Questions and Answers" button.

Additional documents

The following additional documents have been attached to this notice. To obtain these documents please select the individual file names below.

Current documents

Documents are restricted until you note interest in this notice. The documents will become publicly available after the response deadline has passed.

There are no documents attached to this document

Replaced documents

There are no previous versions of these documents.


0800 222 9004

Lines are open 8:30am to 5pm Monday to Friday.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.