Description of the contract
        CYFLWYNIAD A CHEFNDIR 
        Ffrwd waith 3 yw Perllannau Cymunedol Cynhyrchiol, un o chwe ffrwd gwaith y prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol. 
        Mae ffrwd waith Perllannau Cymunedol Cynhyrchiol yn anelu at: 
        o	Ysgogi datblygiad sylweddol ym maes cynhyrchu, storio, a phrosesu ffrwythau, a chynhyrchion ffrwythau sy'n eiddo i'r gymuned, ar gyfer Gymru. 
        o	Nodi ardaloedd sy'n brin o goed a mannau gwyrdd o ansawdd da yn dilyn yr egwyddor 'Coeden Iawn / Lle Iawn' a 'Gwneud Dim Niwed'. 
        o	Creu mynediad agored i safleoedd, gydag ymwelwyr yn cael eu haddysgu ar fanteision Perllannau. 
        o	Lansio 'Rhwydwaith Perllannau Cymunedol' newydd, gan wreiddio rhwydweithio cydradd drwy weithio gyda rhwydweithiau eraill sy'n bodoli. 
        o	Gwella sgiliau perllannau (plannu, cynnal a chadw a phrosesu) drwy hyfforddiant a sesiynau gweithdy. 
        o	Cefnogi datblygiad cynnyrch Cymreig newydd sy'n dod o ffrwythau (lledrau, byrbrydau sych, cordialau). 
        o	Treialu, monitro a gwerthuso buddion economaidd perllannau cymunedol. 
        o	Gweithio gyda rhanddeiliaid yn y gadwyn gyflenwi ffrwythau yng Nghymru. 
        o	Gwneud gwaith mapio i sicrhau lledaeniad daearyddol da ar draws Cymru. 
        o	Plannu 1000 o goed ffrwythau a chnau bwytadwy ar draws o leiaf 10 o safleoedd perllan cymunedol. 
        o	Sefydlu nifer fechan o ganolfannau prosesu a storio ar lefel gymunedol i ddatblygu a phrofi 2 x gynnyrch Cymreig yn defnyddio ffrwythau. 
        o	Cynhyrchu 3 x astudiaeth achos ac 1 x pecyn cymorth. 
        o	Ymgysylltu â 3 x daliad fferm ffurfiol a 7 tirfeddiannwr arall. 
        o	Cefnogi 2 x swydd FTE gan y safleoedd sy'n gweithredu'r cyfleusterau storio a phrosesu. 
        AMLINELLIAD O'R BRIFF: 
        Gwaith i'w gyflawni: Darparu cyfarpar wedi'i logi hirdymor i Safleoedd Perllannau 
        Yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: 
        -	Drafodaeth gyda 6 x o safleoedd penodedig ynghylch eu hanghenion o ran cyfarpar 
        -	Darparu cyfarpar i safleoedd penodedig: suddwyr, sgratyddion/melinau, gweisg, pasteureiddwyr, citiau poteli (yn cynnwys labelu, poteli ac ati), dadhydradyddion, citiau gwneud jam ac ati. 
        -	Darparu cytundebau llogi gyda safleoedd, i gynnwys gwaith cynnal a chadw'r cyfarpar gan y safleoedd tra'i fod yn y lleoliad. 
        Noder: Bydd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar i'r llogi prydles weithio ohono. 
        -	Goruchwylio dosbarthiad, gosod, defnydd cychwynnol a chywiro diffygion yr offer a ddarparwyd wedi hynny. 
        -	Cadw'r holl gofnodion ariannol sy'n berthnasol i'r cyfarpar: 
        o	Dyddiad prynu 
        o	Disgrifiad o'r cyfarpar 
        o	Pris a dalwyd (yn cynnwys TAW net adferadwy) 
        o	Rhifau Cyfresol / Adnabod 
        o	Lleoliad y cyfarpar 
        o	Unrhyw ddyddiad gwaredu 
        o	Unrhyw werthiant rhydd o TAW 
        DS - Ni ddylai UNRHYW gyfarpar gael ei waredu, ei drosglwyddo neu ei wastraffu cyn mis Medi 2028 heb dderbyn caniatâd ysgrifenedig gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol (IoA LlC 36.) 
        Defnyddwyr Yn y tymor byr, y cynhyrchwyr/tyfwyr yn y safleoedd penodol fydd y defnyddwyr.  Yn y tymor hwy, gall y cyfarpar gael ei ddefnyddio gan wirfoddolwyr ar y safle neu yn y gymuned ehangach.  Dylid cymryd hyn i ystyriaeth wrth drafod gofynion cyfarpar gyda grwpiau penodedig yn y lle cyntaf. 
        Manylion penodol Mae'r grwpiau wedi'u lleoli'n ddaearyddol ar hyd a lled Cymru. Dylai ymweliadau ddigwydd i'r safleoedd, yn gorfforol neu'n rhithwir, i asesu'r gofod gosod addas i ddefnyddio'r cyfarpar ar ei orau. 
       |