Additional Information
Mae Cyngor Gwynedd, wrth gefnogi Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni
cyflenwi, yn cadarnhau ei fod wedi ymrwymo a / neu ymrwymo i roi'r prosesau canlynol yn eu lle:-
-Datganiad cyflogaeth foesegol i'w arddangos ar wefan y Cyngor
-penodi pencampwyr foesegol Gwrth-gaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol ar lefel Aelod Cabinet
-Polisi canu'r gloch ar gyfer staff i godi amheuon o arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol sy'n
digwydd a pwynt cyswllt i'r cyhoedd i godi unrhyw bryderon o'r fath mewn perthynas a'r gadwyn gyflenwi
-Hyfforddiant i'r rhai sydd yn ymwneud a phrynu/caffael neu recriwtio mewn caethwasiaeth fodern ac arferion
cyflogaeth foesegol drwy e-fodiwlau Llywodraeth Cymru
- Ymgorffori datganiad Cyflogaeth Foesegol y Cyngor o fewn dogfennau caffael yn ogystal a chynnwys
cwestiynau sydd yn gysylltiedig a'r pwnc o fewn tendrau ac amodau contract, lle bo'n briodol.
- Talu ein cyflenwyr ar amser ( o fewn 30 diwrnod)
-Dim defnydd annheg o hunan-gyflogaeth ffug, cynlluniau mantell na chontractau dim oriau fyddai'n arwain at
osgoi talu Treth/Yswiriant Gwladol fydd yn rhoi ei weithwyr o dan anfantais o ran cyflog, hawliau, cyfleodd
-Staff i gael mynediad i Undeb Llafur heb risg o unrhyw fath o wahaniaethu
-Unrhyw staff sydd a chontractau allanol i gadw eu telerau a'u hamodau cyflogaeth
- Datganiad ysgrifenedig blynyddol yn amlinellu cynnydd er egwyddorion o fewn y Côd, gan gynnwys
Caethwasiaeth Fodern, a chynlluniau ar gyfer unrhyw gamau yn y dyfodol i ddangos cefnogaeth y Cyngor i'r Côd
Ymarfer
Mi fydd unrhyw gynnydd pellach gan y Cyngor ar ymrwymiadau'r Côd yn cael ei gynnwys yn ein datganiad
blynyddol.
Er mwyn i'r Côd Ymarfer gael yr effaith eithaf ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, bydd Cyngor
Gwynedd yn disgwyl i bob un o'i gyflenwyr (a chadwyni cyflenwi dilynol) ymdrechu i roi prosesau tebyg yn eu
lle er mwyn sicrhau nad oes unrhyw unigolyn yn dioddef unrhyw fath o wahaniaethu ar sail cyflogaeth.
(WA Ref:139117)
The buyer considers that this contract is suitable for consortia bidding.
|