Procurement description
Disgrifiad o'r broses gaffael
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rheoli'r broses gaffael ar ran Adnodd ar gyfer datblygu adnoddau sy'n cefnogi addysgu a dysgu yn y meysydd canlynol:
• Hanes Cymru
• Gwrth-hiliaeth
• Hawliau Dynol (14-19 oed)
Disgrifiad o'r broses ymgysylltu
Cyhoeddodd Adnodd hysbysiad ar eu gwefan yn hysbysebu'r cyfle. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth drwy'r ddolen ganlynol: Ffenest gyllido Adnodd Chwefror 2026 - Adnodd
Mae'r rownd gomisiynu hon yn cynnig cyfleoedd cytundebol sylweddol. Bydd gan Adnodd yr hawl i ddyfarnu cytundebau ar gyfer mwy nag un prosiect i fwy nag un cyflenwr o fewn pob lot ar gyfer creu, cynhyrchu a chyhoeddi adnoddau sy'n cefnogi addysgu a dysgu yn y meysydd canlynol:
• Lot 1: Hanes Cymru (£150,000 gan gynnwys TAW)
• Lot 2: Gwrth-hiliaeth (£150,000 gan gynnwys TAW)
• Lot 3: Hawliau Dynol 14-19 oed (tua £100,000 gan gynnwys TAW)
Bydd Adnodd yn ariannu adnoddau newydd sydd:
• yn ddwyieithog (fersiwn Cymraeg a Saesneg)
• am ddim i'w cyrchu a'u defnyddio
• yn cyd fynd â’r Cwricwlwm i Gymru ac un neu fwy o feysydd ffocws Adnodd; llythrennedd, tegwch a gwrth-hiliaeth, a llesiant
• wedi eu datblygu ac ar gael i'w defnyddio erbyn 1af o Fawrth 2027
Rhaid i adnoddau fod mewn fformat digidol yn bennaf; fodd bynnag, gellir cynnwys deunyddiau print fel rhan o gais lle mae cyfiawnhad cryf a thystiolaeth glir o angen.
Bydd Adnodd yn cynnal dau weminar ymgysylltu cyn y farchnad ar-lein i rannu manylion pellach am y cyfle cyffrous hwn. Cynigir yr un sesiwn ddwywaith, a dylai cyflenwyr fynychu un sesiwn yn unig.
Cofrestrwch yma:
https://events.teams.microsoft.com/event/50e10155-f542-4814-adbd-5056ee86fdb0@4f3f0e52-b734-4164-9409-1b601d147993
Procurement description
Caerphilly County Borough Council will be managing the procurement process on behalf of Adnodd for the development of resources that support teaching and learning in the following areas:
• Welsh History
• Anti-racism
• Human Rights (14-19 years)
Engagement process description
Adnodd published a notice on their website advertising the opportunity. The information can be found via the following link: February 2026 funding window - Adnodd
This commissioning round offers substantial contract opportunities. Adnodd will reserve the right to award contracts for multiple projects to more than one supplier within each lot for the creation, production and publication of resources that support teaching and learning in the following areas:
• Lot 1: Welsh History (£150,000 inc. VAT)
• Lot 2: Anti-racism (£150,000 inc. VAT)
• Lot 3: Human Rights 14-19 years (approx. £100,000 inc. VAT)
Adnodd will be looking to fund new resources that are:
• bilingual (Welsh and English versions)
• free to access and use
• aligned with and supports the Curriculum for Wales and one or more of Adnodd’s focus areas; literacy, equity and anti-racism, and well-being.
• developed and available by 1 March 2027
Resources must primarily be in digital format; however, printed materials may also be included in proposals provided there is clear justification, supported by compelling evidence of need.
Adnodd will be holding two online pre-market engagement webinars to share further details of this exciting opportunity. The same session will be offered twice, and bidders should only attend one session.
Register Here:
https://events.teams.microsoft.com/event/50e10155-f542-4814-adbd-5056ee86fdb0@4f3f0e52-b734-4164-9409-1b601d147993