Skip to main content

We've saved some files called cookies on your device. These cookies are:

  • essential for the site to work
  • to help improve our website by collecting and reporting information on how you use it

We would also like to save some cookies to help tailor communications.

BETA
You're viewing an updated version of this service - your feedback will help us to improve it.

Speculative Notice

System Cof Cyfieithu a System Rheoli Terminoleg i Lywodraeth Cymru

  • First published: 11 November 2020
  • Last modified: 11 November 2020
  • Version: N/A
  • Record interest

     

  • This file may not be fully accessible.

  •  

Contents

Summary

OCID:
ocds-kuma6s-105596
Published by:
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Authority ID:
AA0007
Publication date:
11 November 2020
Deadline date:
-
Notice type:
Speculative Notice
Has documents:
No
Has SPD:
No
Has Carbon Reduction Plan:
N/A

Abstract

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru (GC) yn dymuno comisiynu system Cof Cyfieithu a Rheoli Terminoleg gadarn, sy'n gallu ymdopi â chynnydd mewn defnydd, i ddisodli ei system bresennol. Rhaid iddi fod yn addas ar gyfer adran o tua 45 o gyfieithwyr proffesiynol a staff gweinyddol, sy'n gweithio mewn sawl lleoliad ledled Cymru gan gynnwys gartref, yn ogystal ag ecosystem o gontractwyr cyfieithu allanol sy'n ategu'r tîm hwn. Mae cof cyfieithu wedi bod yn rhan annatod o systemau a dulliau gwaith y GC ers rhai blynyddoedd. Nid yw'r system bresennol wedi gallu addasu'n llawn i ofynion diweddar y GC ac mae ei pherfformiad yn anghyson ar lwyfan TGCh Llywodraeth Cymru, yn enwedig yng nghyd-destun cyfieithwyr sy'n gweithio gartref. Y nod yw archwilio'r manteision a gynigir gan system amgen a fyddai'n gwella gwydnwch y Gwasanaeth Cyfieithu, a chael y system honno wedi'i sefydlu ac yn gwbl weithredol cyn diwedd blwyddyn ariannol 2020-2021. Dyma ofynion hanfodol y system: - System cof cyfieithu, a fydd yn caniatáu ar gyfer mewngludo data cyfredol y GC, ac a fydd yn cynnig cyfieithiadau yn seiliedig ar (i) cofau cyfieithu'r sefydliad a (ii) cyfieithu peirianyddol o ffynhonnell ddiogel (Microsoft Translator drwy Azure ar hyn o bryd), ynghyd â thermau perthnasol o gronfeydd termau'r sefydliad - System Rheoli Terminoleg, a fydd yn (i) caniatáu i ddata cyfredol y GC gael eu mewnforio; (ii) gweithio ochr yn ochr â'r system cof cyfieithu i gynnig termau cyfatebol yng nghyd-destun y cyfieithiad; (iii) rheoli'r gwaith o ychwanegu, adolygu, cyfuno a dileu data terminolegol; a (iv) allforio data ar gyfer cronfa derminoleg ar lein y GC, TermCymru, a gynhelir ar wefan Llywodraeth Cymru. Sylwer nad oes angen gallu darparu rhyngwyneb cyhoeddus ar wahân ar gyfer y gronfa dermau o dan y contract hwn. Dyma'r gofynion dymunol: - Llif gwaith terminoleg, a fydd yn rheoli ac yn cofnodi prosesau ymchwil, adolygu a chymeradwyo hyblyg ar gyfer termau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes - Llif gwaith cyfieithu a fydd yn caniatáu i waith cyfieithu gael ei ddirprwyo i aelodau'r tîm mewnol ac i gyflenwyr allanol, yn ogystal â chaniatáu iddynt ddefnyddio storfa'r GC o gofau cyfieithu a chronfeydd data terminolegol, er mwyn sicrhau bod y llif gwaith cyfan mor effeithiol ag y bo modd ac er mwyn lleihau costau cyfieithu allanol - Y gallu i newid iaith y rhyngwyneb rhwng Cymraeg a Saesneg yn unol â dewis y defnyddiwr.

Full notice text

Speculative Notice – NATIONAL

SUPPLIES

1 Authority Details

1.1

Authority Name and Address


Llywodraeth Cymru

Gwasanaethau Caffael Masnachol, Parc Cathays,

Caerdydd

CF10 3NQ

UK

Karen Roberts

+44 3000623300

ICTProcurement@llyw.cymru

http://llyw.cymru

1.2

Address from which further information may be obtained


Llywodraeth Cymru

Gwasanaethau Caffael Masnachol, Parc Cathays,

Caerdydd

CF10 3NQ

UK

Karen Roberts

+44 3000623300

ICTProcurement@llyw.cymru

http://llyw.cymru

2 Contract Details

2.1

Title

System Cof Cyfieithu a System Rheoli Terminoleg i Lywodraeth Cymru

2.2

Description of the goods or services required

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru (GC) yn dymuno comisiynu system Cof Cyfieithu a Rheoli Terminoleg gadarn, sy'n gallu ymdopi â chynnydd mewn defnydd, i ddisodli ei system bresennol. Rhaid iddi fod yn addas ar gyfer adran o tua 45 o gyfieithwyr proffesiynol a staff gweinyddol, sy'n gweithio mewn sawl lleoliad ledled Cymru gan gynnwys gartref, yn ogystal ag ecosystem o gontractwyr cyfieithu allanol sy'n ategu'r tîm hwn.

Mae cof cyfieithu wedi bod yn rhan annatod o systemau a dulliau gwaith y GC ers rhai blynyddoedd. Nid yw'r system bresennol wedi gallu addasu'n llawn i ofynion diweddar y GC ac mae ei pherfformiad yn anghyson ar lwyfan TGCh Llywodraeth Cymru, yn enwedig yng nghyd-destun cyfieithwyr sy'n gweithio gartref. Y nod yw archwilio'r manteision a gynigir gan system amgen a fyddai'n gwella gwydnwch y Gwasanaeth Cyfieithu, a chael y system honno wedi'i sefydlu ac yn gwbl weithredol cyn diwedd blwyddyn ariannol 2020-2021.

Dyma ofynion hanfodol y system:

- System cof cyfieithu, a fydd yn caniatáu ar gyfer mewngludo data cyfredol y GC, ac a fydd yn cynnig cyfieithiadau yn seiliedig ar (i) cofau cyfieithu'r sefydliad a (ii) cyfieithu peirianyddol o ffynhonnell ddiogel (Microsoft Translator drwy Azure ar hyn o bryd), ynghyd â thermau perthnasol o gronfeydd termau'r sefydliad

- System Rheoli Terminoleg, a fydd yn (i) caniatáu i ddata cyfredol y GC gael eu mewnforio; (ii) gweithio ochr yn ochr â'r system cof cyfieithu i gynnig termau cyfatebol yng nghyd-destun y cyfieithiad; (iii) rheoli'r gwaith o ychwanegu, adolygu, cyfuno a dileu data terminolegol; a (iv) allforio data ar gyfer cronfa derminoleg ar lein y GC, TermCymru, a gynhelir ar wefan Llywodraeth Cymru. Sylwer nad oes angen gallu darparu rhyngwyneb cyhoeddus ar wahân ar gyfer y gronfa dermau o dan y contract hwn.

Dyma'r gofynion dymunol:

- Llif gwaith terminoleg, a fydd yn rheoli ac yn cofnodi prosesau ymchwil, adolygu a chymeradwyo hyblyg ar gyfer termau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes

- Llif gwaith cyfieithu a fydd yn caniatáu i waith cyfieithu gael ei ddirprwyo i aelodau'r tîm mewnol ac i gyflenwyr allanol, yn ogystal â chaniatáu iddynt ddefnyddio storfa'r GC o gofau cyfieithu a chronfeydd data terminolegol, er mwyn sicrhau bod y llif gwaith cyfan mor effeithiol ag y bo modd ac er mwyn lleihau costau cyfieithu allanol

- Y gallu i newid iaith y rhyngwyneb rhwng Cymraeg a Saesneg yn unol â dewis y defnyddiwr.

NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=105596 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

2.3

Notice Coding and Classification

48740000 Foreign language translation software package
72212740 Foreign language translation software development services
1000 CYMRU
1010 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
1011 Ynys Môn
1012 Gwynedd
1013 Conwy a Sir Ddinbych
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1015 Cymoedd Canalog (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf)
1016 Cymoedd Gwent (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili)
1017 Pen-y-bont ar Ogwr a Castell-Nedd Port Talbot
1018 Abertawe
1020 Dwyrain Cymru
1021 Sir Fynwy a Chasnewydd
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg
1023 Sir y Fflint a Wrecsam
1024 Powys

3 Administrative Information

3.1

Reference number attributed to the notice by the contracting authority

C129/2020/2021

3.2

Estimated Start of the Award Procedure

 15-12-2020

4 Other Information

4.1

Additional Information

Sicrwydd:

Hanfodol Seiber ychwanegol

ISO270001

(WA Ref:105596)

4.2

Download Additional Documentation

N/a

4.3

Publication date of this notice

 11-11-2020

Coding

Commodity categories

ID Title Parent category
72212740 Foreign language translation software development services Programming services of application software
48740000 Foreign language translation software package Software package utilities

Delivery locations

ID Description
1017 Bridgend and Neath Port Talbot
1022 Cardiff and Vale of Glamorgan
1015 Central Valleys (Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf)
1013 Conwy and Denbighshire
1020 East Wales
1023 Flintshire and Wrexham
1016 Gwent Valleys (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerphilly)
1012 Gwynedd
1011 Isle of Anglesey
1021 Monmouthshire and Newport
1024 Powys
1014 South West Wales (Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion)
1018 Swansea
1000 WALES
1010 West Wales and The Valleys

Alert region restrictions

The buyer has restricted the alert for this notice to suppliers based in the following regions.

ID Description
There are no alert restrictions for this notice.

About the buyer

Main contact:
ICTProcurement@llyw.cymru
Admin contact:
ICTProcurement@llyw.cymru
Technical contact:
N/a
Other contact:
N/a

Further information

Date Details
16/12/2020 17:48
OJEU PIN Notice Saesneg
PIN Saesneg:
https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=105014

(WA Ref:105014)

0800 222 9004

Lines are open 8:30am to 5pm Monday to Friday.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.