Procurement description
Trosolwg
Mae Chwaraeon Cymru yn paratoi i gynnal ymarfer caffael ar gyfer cam Alffa ei Brosiect Data a Dirnadaeth.
Bydd y cam Alffa yn canolbwyntio ar ddatblygu a phrofi cyflenwad o ddata prawf o gysyniad ac ar asesu'r amodau sefydliadol sydd eu hangen ar gyfer ei fabwysiadu'n llwyddiannus a'i gynaliadwyedd hirdymor.
Felly rydym yn ceisio ymgysylltu'n gynnar â'r farchnad i ddeall gallu, dull a diddordeb cyflenwyr mewn cefnogi'r gwaith hwn - sy'n dod â datblygiad technegol a diwylliant a pharodrwydd sefydliadol at ei gilydd yn un gofyniad integredig.
Bydd yr ymgysylltu rhagarweiniol hwn yn helpu Chwaraeon Cymru i lunio ei fanyleb derfynol, ei fodel masnachol a'i ddull cyflawni.
Pwrpas y Cam Alffa
Mae’r cam Alffa yn adeiladu ar waith darganfod a gwblhawyd yn 2024, a nododd y cyfle i gryfhau sut mae Chwaraeon Cymru yn casglu, yn cysylltu ac yn defnyddio data i gynhyrchu dirnadaeth ac fel sail i benderfyniadau.
Bydd y cam Alffa yn gwasanaethu fel prawf o gysyniad ar gyfer y canlynol:
• Dylunio a phrofi cyflenwad o ddata sy'n galluogi data o sawl ffynhonnell i gael ei dderbyn, ei lanhau a'i drawsnewid yn ddirnadaeth.
• Dangos sut gall data sbarduno penderfyniadau mwy unedig, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
• Deall pa bobl, prosesau a llywodraethu sydd eu hangen i ymgorffori a graddio'r gallu hwn ar draws y sefydliad.
Felly, bydd y cam Alffa yn dod â dwy agwedd ryng-gysylltiedig at ei gilydd:
1. Agwedd dechnegol – dylunio a phrofi cyflenwad o ddata prawf o gysyniad graddadwy a'r gallu adrodd cysylltiedig.
2. Agwedd ddiwylliannol – asesu a chryfhau diwylliant data'r sefydliad, ei barodrwydd a'i allu i fabwysiadu a chynnal y cyflenwad hwnnw.
Rydym yn edrych ar a fydd un cyflenwr yn gallu cyflawni'r ddwy agwedd yn effeithiol, neu ai partneriaethau neu gonsortia fydd yn gallu cynnig y llwybr gorau.
Cwmpas Dangosol
Agwedd dechnegol
• Dylunio, adeiladu a phrofi cyflenwad data diogel ac awtomatig o fewn amgylchedd Microsoft Azure.
• Derbyn a thrawsnewid data o sawl fformat a ffynhonnell (e.e. Excel, SQL, APIs, SharePoint).
• Datblygu “achos defnydd” wedi’i ddiffinio i ddangos dirnadaeth ymarferol (e.e. data dyrannu grantiau, cyfranogiad neu gyfleusterau).
• Cynhyrchu dangosfyrddau neu ddelweddau (e.e. Power BI) a dogfennu’r broses ar gyfer ailadroddadwyedd a graddadwyedd.
• Trosglwyddo gwybodaeth a meithrin gallu o fewn Chwaraeon Cymru drwy ddull “dangos a gwneud”.
Agwedd ddiwylliannol
• Asesu parodrwydd a gallu Chwaraeon Cymru i fabwysiadu ac ymgorffori ffyrdd o weithio sy'n seiliedig ar ddata.
• Edrych ar rwystrau a galluogwyr i ddefnyddio data'n gyson (sgiliau, perchnogaeth, prosesau, llywodraethu).
• Argymell ymyriadau ymarferol i gryfhau llythrennedd data, llywodraethu a diwylliant.
• Datblygu map ffordd a chynllun newid ar gyfer mabwysiadu a meithrin gallu yn y tymor hir.
• Gweithio ar y cyd â thîm y prosiect i sicrhau bod y canfyddiadau'n ymarferol ac wedi'u gwreiddio yng nghyd-destun y sefydliad.
Canlyniadau Allweddol
Erbyn diwedd y cam Alffa, mae Chwaraeon Cymru yn disgwyl bod wedi cyflawni’r canlynol:
• Bod â chyflenwad prawf o gysyniad sy'n gweithio ac yn ddangosadwy, gan ddarparu dirnadaeth o ddwy neu fwy o setiau data allweddol.
• Deall y newidiadau sefydliadol, y sgiliau a'r prosesau sydd eu hangen i raddio'r cyflenwad hwnnw.
• Bod â map ffordd clir ar gyfer y cam Beta a’r gweithredu yn yr hirdymor.
Overview
Sport Wales is preparing to undertake a procurement exercise for the Alpha phase of its Data & Insight Project.
The Alpha phase will focus on developing and testing a proof-of-concept data pipeline and on assessing the organisational conditions needed for its successful adoption and long-term sustainability.
We are therefore seeking early engagement with the market to understand supplier capability, approach, and interest in supporting this work - which brings together technical development and organisational culture and readiness into one integrated requirement.
This preliminary engagement will help Sport Wales to shape its final specification, commercial model, and delivery approach.
Purpose of the Alpha Phase
The Alpha phase builds on discovery work completed in 2024, which identified the opportunity to strengthen how Sport Wales collects, connects, and uses data to generate insight and inform decisions.
The Alpha will serve as a proof of concept to:
• Design and test a data pipeline that enables data from multiple sources to be ingested, cleaned, and transformed into insight.
• Demonstrate how data can drive more joined-up, evidence-based decision-making.
• Understand what people, processes, and governance are required to embed and scale this capability across the organisation.
The Alpha phase will therefore bring together two interconnected aspects:
1. Technical aspect – to design and test a scalable proof-of-concept data pipeline and associated reporting capability.
2. Cultural aspect – to assess and strengthen the organisation’s data culture, readiness, and capability to adopt and sustain that pipeline.
We are exploring whether one supplier can deliver both aspects effectively, or whether partnerships or consortia may offer the best route.
Indicative Scope
Technical aspect
• Design, build, and test a secure, automated data pipeline within a Microsoft Azure environment.
• Ingest and transform data from multiple formats and sources (e.g., Excel, SQL, APIs, SharePoint).
• Develop a defined “use case” to demonstrate actionable insight (e.g., grant allocation, participation, or facility data).
• Produce dashboards or visualisations (e.g., Power BI) and document the process for repeatability and scalability.
• Transfer knowledge and build capability within Sport Wales through a “show and do” approach.
Cultural aspect
• Assess Sport Wales’ readiness and capability to adopt and embed data-driven ways of working.
• Explore barriers and enablers to consistent data use (skills, ownership, processes, governance).
• Recommend practical interventions to strengthen data literacy, governance, and culture.
• Develop a roadmap and change plan for long-term adoption and capability building.
• Work collaboratively with the project team to ensure findings are actionable and grounded in organisational context.
Key Outcomes
By the end of the Alpha phase, Sport Wales expects to:
• Have a functioning, demonstrable proof-of-concept pipeline delivering insight from at two or more key datasets.
• Understand the organisational changes, skills, and processes needed to scale that pipeline.
• Have a clear roadmap for a Beta phase and long-term implementation.