Description of the goods or services required
Voluntary and community organisations across Wales are central to the delivery of wellbeing, cohesion, poverty mitigation, regeneration, and environmental sustainability. These organisations provide trusted, place-based support, often stepping in where public services have retreated, and are increasingly relied upon by citizens and public bodies alike. Despite their growing importance, there is currently no cohesive national policy to recognise, support, or strategically invest in this sector. This gap risks fragmentation, missed opportunities, and un-tapped community potential.
WCVA and Building Communities Trust (BCT) are commissioning a research partner to develop a robust, participatory and policy-relevant evidence base that will underpin a national Communities Policy for Wales. This policy will align with existing legislative frameworks, such as the Well-being of Future Generations (Wales) Act, and translate community insight into practical policy levers.
The research will:
• Identify the core components, enablers, and barriers to community-centred approaches
• Explore the role of voluntary and community organisations in delivering outcomes across key policy areas
• Engage diverse communities and public sector stakeholders
• Undertake a literature review and case study analysis
• Produce a final report that supports policy development and advocacy, offering actionable recommendations to influence Welsh Government and other strategic partners
This commission is about shaping a bold, strategic policy framework that reflects lived experience, strengthens collaboration, and empowers communities across Wales.
*****
Mae mudiadau gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru yn ganolog i gyflawni lles, cydlyniant, lliniaru tlodi, adfywio a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae’r mudiadau hyn yn darparu cymorth dibynadwy seiliedig ar le, yn aml yn camu i mewn lle mae gwasanaethau cyhoeddus wedi tynnu’n ôl, ac mae dinasyddion a chyrff cyhoeddus fel ei gilydd yn dibynnu fwyfwy arnynt. Serch eu pwysigrwydd cynyddol, nid oes polisi cenedlaethol cydlynus ar hyn o bryd i gydnabod, cefnogi na buddsoddi’n strategol yn y sector hwn. Oherwydd y bwlch hwn, mae perygl o raniadau, cyfleoedd coll a photensial cymunedol heb ei gyffwrdd.
Mae CGGC a’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (BCT) yn comisiynu partner ymchwil i ddatblygu sylfaen dystiolaeth gadarn a chyfranogol sy’n berthnasol i bolisi a fydd yn sail i Bolisi Cymunedau cenedlaethol i Gymru. Bydd y polisi hwn yn cyd-fynd â fframweithiau deddfwriaethol presennol, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), ac yn troi mewnwelediad cymunedol yn ysgogwyr polisi ymarferol.
Bydd yr ymchwil yn:
• Nodi’r cydrannau craidd, y galluogwyr a’r rhwystrau i ymagweddau sy’n canolbwyntio ar gymunedau
• Edrych ar rôl mudiadau gwirfoddol a chymunedol mewn cyflawni canlyniadau ar draws meysydd polisi allweddol
• Ymgysylltu â chymunedau amrywiol a rhanddeiliaid o’r sector cyhoeddus
• Cynnal adolygiad llenyddiaeth a dadansoddiad o astudiaethau achos
• Cynhyrchu adroddiad terfynol sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chefnogi polisi, gan gynnig argymhellion y gellir eu rhoi ar waith i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a phartneriaid strategol eraill
Mae’r comisiwn hwn yn ymwneud â llunio fframwaith polisi strategol, beiddgar sy’n adlewyrchu profiadau bywyd, yn cryfhau cydweithio ac yn grymuso cymunedau ledled Cymru.
NOTE: To register your interest in this notice and obtain any additional information please visit the Sell2Wales Web Site at https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=157948.
The buyer has indicated that it will accept electronic responses to this notice via the Postbox facility. A user guide is available at https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Suppliers are advised to allow adequate time for uploading documents and to dispatch the electronic response well in advance of the closing time to avoid any last minute problems.
|