Description of the goods or services required
Dysgu yw'r sefydliad cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol a chymorth arweinyddiaeth ar gyfer y gweithlu addysg a gynhelir yng Nghymru (Rhif Cwmni 11348558).
Ein nod yw darparu dysgu proffesiynol cydlynol ac effeithiol o ansawdd uchel sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol, gan gryfhau'r system a grymuso pob addysgwr.
(Gwefan - Dysgu.llyw.cymru)
Yn rhan o'i gynnig dysgu proffesiynol, mae Dysgu yn datblygu cyfres o adnoddau dysgu anghydamserol i gefnogi Cynorthwywyr Addysgu newydd a chynorthwyo oedolion sy'n gweithio mewn ysgolion a lleoliadau ledled Cymru.
Bydd y rhaglen, Dechrau’n Gadarn: Eich Rôl fel Cynorthwyydd Addysgu yng Nghymru, yn darparu dysgu proffesiynol sylfaenol trwy gyfres o fodiwlau dysgu digidol byr. Elfen allweddol o'r rhaglen yw casgliad o animeiddiadau sydd wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol sydd wedi'u cynllunio i ennyn diddordeb dysgwyr, darlunio cysyniadau craidd ac ategu dealltwriaeth o negeseuon allweddol.
Mae'r bensaernïaeth ddysgu, strwythur y cynnwys a’r sgriptiau eisoes wedi'u datblygu gan Dysgu. Bydd y cyflenwr llwyddiannus ond yn gyfrifol am gynhyrchu'r asedau animeiddio a'r allbynnau cyfryngau cysylltiedig.
Bwriad yr ymarfer caffael hwn yw chwilio am gyflenwr animeiddio profiadol i weithio ar y cyd â Dysgu i greu cyfres animeiddio hygyrch a diddorol o ansawdd uchel sy'n addas ar gyfer cynulleidfa addysg genedlaethol.
//////
Dysgu is the national organisation for professional learning and leadership support for the maintained education workforce in Wales (Company number 11348558).
Our aim is to deliver high-quality, coherent and impactful professional learning aligned with national priorities, strengthening the system and empowering all educators.
(Website - Dysgu.gov.wales)
As part of its professional learning offer, Dysgu is developing a suite of asynchronous learning resources to support new Teaching Assistants and supporting adults working within schools and settings across Wales.
The programme, Starting Strong: Your Role as a Teaching Assistant (TA) in Wales, will provide foundational professional learning through a series of short digital learning modules. A key component of the programme is a collection of professionally produced animations designed to engage learners, illustrate core concepts and support understanding of key messages.
The learning architecture, content structure and scripts have already been developed by Dysgu. The successful supplier will be responsible solely for the production of the animation assets and associated media outputs.
This procurement seeks an experienced animation supplier to work collaboratively with Dysgu to create a high-quality, accessible and engaging animation series suitable for a national education audience.
NOTE: To register your interest in this notice and obtain any additional information please visit the Sell2Wales Web Site at https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=173182.
|