Description of the goods or services required
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dymuno penodi cwmni allanol i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol o Orffennaf 1af 2015 hyd at Orffennaf 31ain 2017. Mae’r Coleg yn gwahodd tendrau gan gwmnïau cyfreithiol cymwys i ddarparu ystod o wasanaethau cyfreithiol yn ôl y galw. Bydd y gallu i ddarparu'r gwasanaethau yn Gymraeg yn hanfodol.
1.1 Gofynion
1.1.1 Mae rhai gofynion cyfreithiol sefydlog, ac mae eraill sydd yn ofynion posibl yn dibynnu yn helaeth ar amgylchiadau allanol a/neu ddigwyddiadau na ellir eu rhagweld.
GOFYNION SEFYDLOG
• Cyngor ar faterion yn ymwneud â Memorandwm ac Erthyglau’r Coleg, yn cynnwys cyngor ar y berthynas gyda Thy’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau
• Hyfforddiant i staff uwch y Coleg ar eu dyletswyddau parthed gweinyddu llywodraethiant y Coleg (gall hyn gynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol , y Bwrdd a’i bwyllgorau, gofynion adrodd i Dy’r Cwmniau a’r Comisiwn Elusennau a materion perthynol).
• Hyfforddiant rheolaidd i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr ar ddyletswyddau cyfarwyddwyr, datgan diddordeb, gwrthdaro buddiannau, unrhyw ofynion statudol neu ofynion eraill.
GOFYNION ACHLYSUROL TEBYGOL
Cyflogaeth
Cytundebau a chontractau
Eiddo – materion parthed prydlesi swyddfeydd y Coleg ac ati.
Addysg
Risg, Atebolrwydd a Iechyd a Diogelwch
Diweddariadau statudol allai effeithio unrhyw agwedd o waith y Coleg.
(O’r uchod, adnabuwyd Cyflogaeth, Cytundebau ac Eiddo fel y tri maes y byddai angen cyngor arnynt yn fwyaf aml).
GOFYNION POSIB ERAILL
Cyllid corfforaethol
Gwasanaethau yn perthyn i anafiadau personol
Casglu dyled
1.1.2 Nid yw’r rhestrau uchod yn drwyadl a gall fod gofynion eraill yn dibynnu ar amgylchiadau. Gwahoddir ymgeiswyr i amlinellu gwasanaethau eraill allai fod yn berthnasol a defnyddiol.
PWYSIG: Ewch i'r tab 'Gwybodaeth Ychwanegol' i weld y Fanyleb lawn.
NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.uk/Search/Search_Switch.aspx?ID=26173 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|