Description of the contract
Cefndir y prosiect.
Cynllun peilot i arbrofi gyda datblygu rhwydwaith cenedlaethol o wefannau cymunedol Cymraeg yw hwn. Bwriedir arloesi gyda thechnoleg gwybodaeth i gryfhau bywyd cymunedol ac economi ardaloedd gwledig a hynny trwy lwyfannau gwybodaeth a busnes lleol.
Mae’r cynllun yn rhedeg tan fis Ebrill 2022 ac mae’r gwaith paratoi a recriwtio etc. wedi dechrau. Bydd y gwaith yn dechrau o ddifri ym mis Mawrth 2019, i gyd-daro â dechrau’r cytundeb hwn.
Bydd y prosiect wedi ei ganoli yn swyddfeydd presennol Golwg yn Llanbedr Pont Steffan a Chaernarfon ac mewn swyddfa newydd sy’n cael ei hagor yn fuan, yn Aberystwyth.
Bydd y prosiect yn gweithio gyda chlystyrau o gymunedau, gan gynnwys papurau bro, gan ddechrau mewn dwy ardal benodol ac wedyn ymestyn i ardaloedd ehangach gan greu model y bydd modd ei gymhwyso a’i ledu ar draws Cymru gyfan. Bydd y gwaith gyda’r ddau glwstwr craidd yn datblygu modelau a phatrymau gweithio; tua diwedd y prosiect bydd modd ymestyn y rhain, gam wrth gam.
Bydd y cynllun yn cyflogi ysgogwyr (animateurs) yn benodol i weithio gyda’r rhanddeiliaid a’u gwaith hwy’n cael eu cefnogi gan arbenigedd proffesiynol; yn eu plith rhai o staff allweddol Golwg a Golwg360.
Bydd y prif waith yn digwydd i ddechrau gyda dau glwstwr o gymunedau a phapurau bro, un yng ngogledd Ceredigion a’r llall yn Arfon.
Yn y flwyddyn olaf, anelir at ledaenu gwybodaeth a hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r casgliadau gyda golwg ar sefydlu cynllun busnes ar gyfer rhaglen genedlaethol tymor hir
Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Am fwy o fanylion ewch i:
Cynllun newydd Golwg i ddatblygu rhwydwaith o wefannau bro ...
https://golwg360.cymru/.../529917-cynllun-newydd-golwg-ddatbly
Amcan y tender
I werthuso perfformiad y prosiect gam wrth gam, a dichonolrwydd rhaglen tymor hir y cynllun peilot. Y nod yw dysgu gwersi yn ystod oes y prosiect ac ar gyfer y broses o’i ehangu. Bydd y gwaith yn gwerthuso rhediad gweithrediad y cynllun. Yn ogystal, bydd y gwaith yn adrodd yn flynyddol ar ddatblygiad elfennau o’r prosiect yn unol â chanlyniadau ac allbynnau gan gynnwys rhoi ystyriaeth i’r cwestiynau canlynol:
• Y broses o drafod gyda’r papurau bro ac ysgogi criwiau newydd i gynnal y gwaith.
• Y broses o gysylltu gyda chyfranwyr posib megis, mudiadau, clybiau, cymdeithasau, cyrff, unigolion a busnesau .
• Trefniadau ar gyfer darparu hyfforddiant gan gynnwys yr hyfforddiant ei hun.
• Y broses o gasglu syniadau ar gyfer datblygu’r gwefannau a'i gweithredu.
• Y mecanwaith o gael pobl i gyfrannu i elfennau o’r prosiect.
• Yr ymwneud â’r cysylltiad gyda Golwg360 gan y gwefannau wrth gyfnewid newyddion a straeon. Hefyd yn yr un modd, y cyswllt rhwng Golwg360 a’r gwefannau.
• Y cydweithrediad a’r bartneriaeth rhwng Golwg 360 a’r gwefannau bro wrth ddatblygu busnes gan gynnwys y model busnes a rhaglen tymor hir y prosiect.
Y prif ganlyniadau fyddai adroddiadau ar berfformiad y prosiect a dichonolrwydd cynllun tymor hir
Bydd yr adroddiad terfynol yn gyfraniad i ddatblygwyr polisi i ddarganfod meysydd o ymarfer da mewn sawl maes ynghyd â rhoi adborth i adolygiad ehangach y Rhaglen Datblygu Gwledig.
Bydd angen i’r adroddiad terfynol roi sylw i effaith y prosiect ar feysydd sy’n cynnwys:
(i) cydlynu cymunedol, gweithgarwch a gwytnwch cymunedol;
(ii) defnydd arloesol o dechnoleg gwybodaeth mewn ardaloedd gwledig;
(iii) cynhwysiant cymdeithasol;
(iv) y diwylliant Cymraeg mewn cymunedau gwledig;
(v) yr economi gwledig;
(vi) creu swyddi a sgiliau busnes;
(vii) parhad cyfryngau Cymraeg lleol a chenedlaethol;
Sut mae ymateb
Ni ddylai’r ymateb fod yn fwy nag wyth tudalen gan gynnwys:
• Cynigion ar sut i fynd ati a rhaglen sydd yn unol â’r amserlen
• Profiad ac arbenigedd y tîm o ymgynghorwyr
• Manylion costau
Byddwn yn barod i dderbyn gwybodaeth ychwanegol gyffredinol mewn atodiad. Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol, mi fyddwn yn cysylltu.
Ymholiadau a gofynion y cyflwyniad
Am unrhyw ymholiadau ynglŷn â chyflwyno cynnig, cysylltwch â Dylan Iorwerth trwy e-bost: dylaniorwerth@golwg.com
Mae’r gallu i weithio trwy’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y cytundeb hwn.
The ability to work through the medium of Welsh is necessary for this contract.
|