Description of the goods or services required
Dyma ail-hysbyseb ar gyfer comisiynu ymchwil ar agweddau myfyrwyr israddedig tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.
(PLEASE NOTE: The full specification is only available in Welsh as we would require a full and complete service through the medium of Welsh for this project)
Ychwanegwyd y pwyntiau bwled isod at yr hysbyseb er cyd-destun:
• Mae'r Coleg yn hapus i drafod yr amserlen a'r fethodoleg fwyaf addas ar gyfer cyflawni'r gwaith gyda chwmnïau sy'n cyflwyno cais.
• Rydym yn hapus i ystyried amserlen estynedig ar gyfer cyflawni'r gwaith hyd at Fehefin 2023.
• Bydd y Coleg yn barod i hwyluso'r cyswllt gyda myfyrwyr tu hwnt i'r ffin.
• Mae'r Coleg yn ymwybodol o waith sydd eisoes wedi digwydd gyda myfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau yng Nghymru. Mae nifer o sefydliadau addysg uwch wedi neu wrthi yn casglu gwybodaeth gan y garfan hon o fyfyrwyr a bydd y Coleg yn hapus i gyfeirio'r cwmni llwyddiannus at y ffynonellau hyn o wybodaeth. Man cychwyn y gwaith hwn fydd edrych ar yr ymchwil sydd eisoes yn bodoli cyn penderfynu ar unrhyw waith ychwanegol sydd ei angen er mwyn cyflawni amcanion y briff yn llawn.
• Rydym yn annog cwmnïau sydd a diddordeb i gyflwyno ceisiadau cryno yn y lle cyntaf. Bydd cyfle i ymhelaethu ar y braslun mewn trafodaethau dilynol.
Dyma'r disgrifiad gwreiddiol:
Mae’r contract hwn ar gyfer comisiynu ymchwil i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ganfod darlun manwl o agweddau myfyrwyr israddedig sy’n siarad Cymraeg ac yn astudio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru (ond ddim yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg), yn ogystal ag agweddau a chanfyddiadau myfyrwyr sy’n astudio tu allan i Gymru tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.
Gwahoddir ceisiadau gan gwmnïau addas i lunio adroddiad sy’n ystyried agweddau a chanfyddiadau y myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru tuag at:
• Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol;
• Effeithiolrwydd Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg wrth annog myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg;
• Y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg e.e. rhestrau terminoleg a darpariaeth sgiliau iaith;
• Yr hyn fyddai angen ei sicrhau er mwyn annog mwy o fyfyrwyr i ddilyn darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog;
• Y math o negeseuon fyddai’n apelio at y myfyrwyr hyn.
Ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio mewn sefydliadau tu allan i Gymru, hoffai’r Coleg ddeall:
• Beth sy’n cymell myfyrwyr i astudio mewn sefydliadau tu hwnt i’r ffin?
• Beth yw eu canfyddiadau o sefydliadau addysg uwch Cymru?
• Pa fath o ddylanwad caiff trefniadau cyllido myfyrwyr ar ddewisiadau myfyrwyr?
• Pa fath o gynlluniau fyddai’n annog y myfyrwyr hyn i ddychwelyd i Gymru i astudio a/neu weithio ar ôl graddio?
• Pa fath o negeseuon fyddai’n apelio at y myfyrwyr hyn ar gyfer eu denu yn ôl i astudio neu weithio yng Nghymru ar ôl graddio?
Rhagwelir y bydd angen cynnal gwaith ymchwil ansoddol gyda myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, ar ffurf grwpiau ffocws ar-lein a/neu gyfweliadau ar-lein neu dros y ffôn yn ôl pob tebyg. Bydd angen i’r ymchwil adlewyrchu profiadau myfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg ac yn dod o gefndiroedd gwahanol gan gynnwys myfyrwyr sy’n astudio amrediad o bynciau mewn nifer o sefydliadau gwahanol, myfyrwyr aeddfed a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig.
Ceir rhagor o fanylion yn y ddogfen gwybodaeth ychwanegol.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=119508 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|