Engagement process description
Cyhoeddodd Adnodd hysbysiad ar eu gwefan yn hysbysebu'r cyfle hwn. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth drwy'r ddolen ganlynol: Cyfleoedd yn y farchnad agored - Adnodd
Cyfanswm gwerth y tendr yw £180,000 (gan gynnwys TAW).
Mae Adnodd yn bwriadu dyfarnu dau gontract gwerth hyd at £90,000 (gan gynnwys TAW) yr un ar gyfer creu, cynhyrchu a chyhoeddi adnoddau.
Gall ymgeiswyr weithio mewn partneriaeth ag unigolion, cwmnïau neu sefydliadau arbenigol i gryfhau eu ceisiadau. Fodd bynnag, rhaid enwi un sefydliad arweiniol a fydd yn gyfrifol am y cais ac am gyflawni'r contract yn llwyddiannus.
Bydd Adnodd yn ariannu adnoddau newydd sydd:
• yn ddwyieithog (fersiynau Cymraeg a Saesneg)
• am ddim i'w cyrchu a'u defnyddio
• wedi'u datblygu gan unigolion sydd â phrofiad addas, ac sydd â dealltwriaeth glir o hiliaeth, gwrth-hiliaeth ac ymarfer addysgol effeithiol
• yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru
• wedi eu datblygu ac ar gael i’w defnyddio erbyn 30 Medi 2027
Rhaid i'r adnoddau fod mewn fformat digidol yn bennaf; ond gellir hefyd gynnwys deunyddiau print fel rhan o gais lle mae rhesymeg glir dros wneud hynny, wedi'i hategu gan dystiolaeth gadarn o angen.
Bydd Adnodd yn cynnal dwy weminar ymgysylltu cyn y farchnad ar-lein i rannu rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn. Bydd yr un sesiwn yn cael ei chyflwyno ddwywaith, a dylai cyflenwyr fynychu un sesiwn yn unig.
Cofrestrwch yma: 15:00 – 16:00, 24 Medi 2026
10:30 – 11:30, 25 Medi 2026
Adnodd published a notice on its website advertising the opportunity. The information can be found via the following link: Open market opportunities - Adnodd
The total value of this tender is £180,000 (inc. VAT).
Adnodd intends to award two contracts of up to £90,000 (inc. VAT) each for the creation, production and publication of resources.
Bidders may form partnerships with specialist individuals, companies or organisations to strengthen their proposals. However, a single lead organisation must take overall responsibility for the bid and the successful delivery of the contract.
Adnodd will be looking to fund new resources that are:
• bilingual (Welsh and English versions)
• free to access and use
• developed by suitably experienced individuals, with a clear understanding of racism, antiracism, education and pedagogy
• aligned with the Curriculum for Wales
• developed and available by 30 September 2027
Resources must primarily be in digital format. However, printed materials may also be included in proposals provided there is a clear rationale, supported by compelling evidence of need.
Adnodd will be holding two online pre-market engagement webinars to share further information about this opportunity. The same session will be delivered twice, and suppliers should only attend one session.
Register here: 15:00 – 16:00, 24 September 2026
10:30 – 11:30, 25 September 2026