Skip to main content

We've saved some files called cookies on your device. These cookies are:

  • essential for the site to work
  • to help improve our website by collecting and reporting information on how you use it

We would also like to save some cookies to help tailor communications.

BETA
You're viewing an updated version of this service - your feedback will help us to improve it.

Contract Award Notice

Gwerthuso cynllun Bro360

  • First published: 12 August 2019
  • Last modified: 12 August 2019

The buyer is not using this website to administer the notice.

To record your interest or obtain additional information or documents please find instructions within the Full Notice Text. (NOTE: Contract Award Notices and Prior Information Notices do not normally require a response)

Contents

Summary

OCID:
ocds-kuma6s-088886
Published by:
GOLWG CYFYNGEDIG
Authority ID:
AA73792
Publication date:
12 August 2019
Deadline date:
-
Notice type:
Contract Award Notice
Has documents:
No
Has SPD:
No
Has Carbon Reduction Plan:
N/A

Abstract

Cefndir y prosiect. Cynllun peilot i arbrofi gyda datblygu rhwydwaith cenedlaethol o wefannau cymunedol Cymraeg yw hwn. Bwriedir arloesi gyda thechnoleg gwybodaeth i gryfhau bywyd cymunedol ac economi ardaloedd gwledig a hynny trwy lwyfannau gwybodaeth a busnes lleol. Mae’r cynllun yn rhedeg tan fis Ebrill 2022 ac mae’r gwaith paratoi a recriwtio etc. wedi dechrau. Bydd y gwaith yn dechrau o ddifri ym mis Mawrth 2019, i gyd-daro â dechrau’r cytundeb hwn. Bydd y prosiect wedi ei ganoli yn swyddfeydd presennol Golwg yn Llanbedr Pont Steffan a Chaernarfon ac mewn swyddfa newydd sy’n cael ei hagor yn fuan, yn Aberystwyth. Bydd y prosiect yn gweithio gyda chlystyrau o gymunedau, gan gynnwys papurau bro, gan ddechrau mewn dwy ardal benodol ac wedyn ymestyn i ardaloedd ehangach gan greu model y bydd modd ei gymhwyso a’i ledu ar draws Cymru gyfan. Bydd y gwaith gyda’r ddau glwstwr craidd yn datblygu modelau a phatrymau gweithio; tua diwedd y prosiect bydd modd ymestyn y rhain, gam wrth gam. Bydd y cynllun yn cyflogi ysgogwyr (animateurs) yn benodol i weithio gyda’r rhanddeiliaid a’u gwaith hwy’n cael eu cefnogi gan arbenigedd proffesiynol; yn eu plith rhai o staff allweddol Golwg a Golwg360. Bydd y prif waith yn digwydd i ddechrau gyda dau glwstwr o gymunedau a phapurau bro, un yng ngogledd Ceredigion a’r llall yn Arfon. Yn y flwyddyn olaf, anelir at ledaenu gwybodaeth a hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r casgliadau gyda golwg ar sefydlu cynllun busnes ar gyfer rhaglen genedlaethol tymor hir Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Am fwy o fanylion ewch i: Cynllun newydd Golwg i ddatblygu rhwydwaith o wefannau bro ... https://golwg360.cymru/.../529917-cynllun-newydd-golwg-ddatbly Amcan y tender I werthuso perfformiad y prosiect gam wrth gam, a dichonolrwydd rhaglen tymor hir y cynllun peilot. Y nod yw dysgu gwersi yn ystod oes y prosiect ac ar gyfer y broses o’i ehangu. Bydd y gwaith yn gwerthuso rhediad gweithrediad y cynllun. Yn ogystal, bydd y gwaith yn adrodd yn flynyddol ar ddatblygiad elfennau o’r prosiect yn unol â chanlyniadau ac allbynnau gan gynnwys rhoi ystyriaeth i’r cwestiynau canlynol: • Y broses o drafod gyda’r papurau bro ac ysgogi criwiau newydd i gynnal y gwaith. • Y broses o gysylltu gyda chyfranwyr posib megis, mudiadau, clybiau, cymdeithasau, cyrff, unigolion a busnesau . • Trefniadau ar gyfer darparu hyfforddiant gan gynnwys yr hyfforddiant ei hun. • Y broses o gasglu syniadau ar gyfer datblygu’r gwefannau a'i gweithredu. • Y mecanwaith o gael pobl i gyfrannu i elfennau o’r prosiect. • Yr ymwneud â’r cysylltiad gyda Golwg360 gan y gwefannau wrth gyfnewid newyddion a straeon. Hefyd yn yr un modd, y cyswllt rhwng Golwg360 a’r gwefannau. • Y cydweithrediad a’r bartneriaeth rhwng Golwg 360 a’r gwefannau bro wrth ddatblygu busnes gan gynnwys y model busnes a rhaglen tymor hir y prosiect. Y prif ganlyniadau fyddai adroddiadau ar berfformiad y prosiect a dichonolrwydd cynllun tymor hir Bydd yr adroddiad terfynol yn gyfraniad i ddatblygwyr polisi i ddarganfod meysydd o ymarfer da mewn sawl maes ynghyd â rhoi adborth i adolygiad ehangach y Rhaglen Datblygu Gwledig. Bydd angen i’r adroddiad terfynol roi sylw i effaith y prosiect ar feysydd sy’n cynnwys: (i) cydlynu cymunedol, gweithgarwch a gwytnwch cymunedol; (ii) defnydd arloesol o dechnoleg gwybodaeth mewn ardaloedd gwledig; (iii) cynhwysiant cymdeithasol; (iv) y diwylliant Cymraeg mewn cymunedau gwledig; (v) yr economi gwledig; (vi) creu swyddi a sgiliau busnes; (vii) parhad cyfryngau Cymraeg lleol a chenedlaethol; Sut mae ymateb Ni ddylai’r ymateb fod yn fwy nag wyth tudalen gan gynnwys: • Cynigion ar sut i fynd ati a rhaglen sydd yn unol â’r amserlen • Profiad ac arbenigedd y tîm o ymgynghorwyr • Manylion costau Byddwn yn barod i dderbyn gwybodaeth ychwanegol gyffredinol

Full notice text

CONTRACT AWARD NOTICE – NATIONAL

SERVICES

1 Authority Details

1.1

Authority Name and Address


GOLWG CYFYNGEDIG

Golwg, Blwch Post 4, Llanbedr Pont Steffan,

Ceredigion

SA48 7LX

UK

Owain Schiavone

+44 1570423529


https://golwg360.cymru/

2 Contract Details

2.1

Title

Gwerthuso cynllun Bro360

2.2

Description of the contract

Cefndir y prosiect.

Cynllun peilot i arbrofi gyda datblygu rhwydwaith cenedlaethol o wefannau cymunedol Cymraeg yw hwn. Bwriedir arloesi gyda thechnoleg gwybodaeth i gryfhau bywyd cymunedol ac economi ardaloedd gwledig a hynny trwy lwyfannau gwybodaeth a busnes lleol.

Mae’r cynllun yn rhedeg tan fis Ebrill 2022 ac mae’r gwaith paratoi a recriwtio etc. wedi dechrau. Bydd y gwaith yn dechrau o ddifri ym mis Mawrth 2019, i gyd-daro â dechrau’r cytundeb hwn.

Bydd y prosiect wedi ei ganoli yn swyddfeydd presennol Golwg yn Llanbedr Pont Steffan a Chaernarfon ac mewn swyddfa newydd sy’n cael ei hagor yn fuan, yn Aberystwyth.

Bydd y prosiect yn gweithio gyda chlystyrau o gymunedau, gan gynnwys papurau bro, gan ddechrau mewn dwy ardal benodol ac wedyn ymestyn i ardaloedd ehangach gan greu model y bydd modd ei gymhwyso a’i ledu ar draws Cymru gyfan. Bydd y gwaith gyda’r ddau glwstwr craidd yn datblygu modelau a phatrymau gweithio; tua diwedd y prosiect bydd modd ymestyn y rhain, gam wrth gam.

Bydd y cynllun yn cyflogi ysgogwyr (animateurs) yn benodol i weithio gyda’r rhanddeiliaid a’u gwaith hwy’n cael eu cefnogi gan arbenigedd proffesiynol; yn eu plith rhai o staff allweddol Golwg a Golwg360.

Bydd y prif waith yn digwydd i ddechrau gyda dau glwstwr o gymunedau a phapurau bro, un yng ngogledd Ceredigion a’r llall yn Arfon.

Yn y flwyddyn olaf, anelir at ledaenu gwybodaeth a hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r casgliadau gyda golwg ar sefydlu cynllun busnes ar gyfer rhaglen genedlaethol tymor hir

Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Am fwy o fanylion ewch i:

Cynllun newydd Golwg i ddatblygu rhwydwaith o wefannau bro ...

https://golwg360.cymru/.../529917-cynllun-newydd-golwg-ddatbly

Amcan y tender

I werthuso perfformiad y prosiect gam wrth gam, a dichonolrwydd rhaglen tymor hir y cynllun peilot. Y nod yw dysgu gwersi yn ystod oes y prosiect ac ar gyfer y broses o’i ehangu. Bydd y gwaith yn gwerthuso rhediad gweithrediad y cynllun. Yn ogystal, bydd y gwaith yn adrodd yn flynyddol ar ddatblygiad elfennau o’r prosiect yn unol â chanlyniadau ac allbynnau gan gynnwys rhoi ystyriaeth i’r cwestiynau canlynol:

• Y broses o drafod gyda’r papurau bro ac ysgogi criwiau newydd i gynnal y gwaith.

• Y broses o gysylltu gyda chyfranwyr posib megis, mudiadau, clybiau, cymdeithasau, cyrff, unigolion a busnesau .

• Trefniadau ar gyfer darparu hyfforddiant gan gynnwys yr hyfforddiant ei hun.

• Y broses o gasglu syniadau ar gyfer datblygu’r gwefannau a'i gweithredu.

• Y mecanwaith o gael pobl i gyfrannu i elfennau o’r prosiect.

• Yr ymwneud â’r cysylltiad gyda Golwg360 gan y gwefannau wrth gyfnewid newyddion a straeon. Hefyd yn yr un modd, y cyswllt rhwng Golwg360 a’r gwefannau.

• Y cydweithrediad a’r bartneriaeth rhwng Golwg 360 a’r gwefannau bro wrth ddatblygu busnes gan gynnwys y model busnes a rhaglen tymor hir y prosiect.

Y prif ganlyniadau fyddai adroddiadau ar berfformiad y prosiect a dichonolrwydd cynllun tymor hir

Bydd yr adroddiad terfynol yn gyfraniad i ddatblygwyr polisi i ddarganfod meysydd o ymarfer da mewn sawl maes ynghyd â rhoi adborth i adolygiad ehangach y Rhaglen Datblygu Gwledig.

Bydd angen i’r adroddiad terfynol roi sylw i effaith y prosiect ar feysydd sy’n cynnwys:

(i) cydlynu cymunedol, gweithgarwch a gwytnwch cymunedol;

(ii) defnydd arloesol o dechnoleg gwybodaeth mewn ardaloedd gwledig;

(iii) cynhwysiant cymdeithasol;

(iv) y diwylliant Cymraeg mewn cymunedau gwledig;

(v) yr economi gwledig;

(vi) creu swyddi a sgiliau busnes;

(vii) parhad cyfryngau Cymraeg lleol a chenedlaethol;

Sut mae ymateb

Ni ddylai’r ymateb fod yn fwy nag wyth tudalen gan gynnwys:

• Cynigion ar sut i fynd ati a rhaglen sydd yn unol â’r amserlen

• Profiad ac arbenigedd y tîm o ymgynghorwyr

• Manylion costau

Byddwn yn barod i dderbyn gwybodaeth ychwanegol gyffredinol mewn atodiad. Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol, mi fyddwn yn cysylltu.

Ymholiadau a gofynion y cyflwyniad

Am unrhyw ymholiadau ynglŷn â chyflwyno cynnig, cysylltwch â Dylan Iorwerth trwy e-bost: dylaniorwerth@golwg.com

Mae’r gallu i weithio trwy’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y cytundeb hwn.

The ability to work through the medium of Welsh is necessary for this contract.

2.3

Notice Coding and Classification

72000000 IT services: consulting, software development, Internet and support
73000000 Research and development services and related consultancy services
1012 Gwynedd
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)

2.4

Estimated Total Value

39850 GBP

3 Procedure

3.1

Type of Procedure

Single stage

4 Award of Contract

4.1

Successful Bidders

4.1.1

Name and Address of successful supplier, contractor or service provider





Wavehill Ltd

21 Alban Square,

Aberaeron

SA460DB

UK




www.wavehill.com

5 Other Information

5.1

Reference number attributed to the notice by the contracting authority

N/a

5.2

Date of Contract Award

 16-05-2019

5.3

Number of tenders received

1

5.4

Other Information

(WA Ref:94782)

Mae'n ymwneud â'r prosiect/rhaglen ganlynol a ariennir gan Gronfeydd Cymunedol yr UE: CYMUNEDAU GWLEDIG LLYWODRAETH CYMRU – RHAGLEN DATBLYGU GWLEDIG 2014-2020

RHAGLEN DATBLYGU GWLEDIG 2014-2020

5.5

Additional Documentation

N/a

5.6

Publication date of this notice:

 12-08-2019

Coding

Commodity categories

ID Title Parent category
72000000 IT services: consulting, software development, Internet and support Computer and Related Services
73000000 Research and development services and related consultancy services Research and Development

Delivery locations

ID Description
1012 Gwynedd
1014 South West Wales (Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion)

Alert region restrictions

The buyer has restricted the alert for this notice to suppliers based in the following regions.

ID Description
There are no alert restrictions for this notice.

Document family

Notice details
Publication date:
15 January 2019
Deadline date:
15 February 2019 00:00
Notice type:
Contract Notice
Authority name:
GOLWG CYFYNGEDIG
Publication date:
12 August 2019
Notice type:
Contract Award Notice
Authority name:
GOLWG CYFYNGEDIG

About the buyer

Main contact:
N/a
Admin contact:
N/a
Technical contact:
N/a
Other contact:
N/a

Further information

Date Details
No further information has been uploaded.

0800 222 9004

Lines are open 8:30am to 5pm Monday to Friday.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.