Description of the contract
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dymuno penodi cwmni allanol i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol o Awst 1af 2019 hyd at Orffennaf 31ain 2023, gydag opsiwn i ymestyn am ddwy flynedd pellach. Mae’r Coleg yn gwahodd tendrau gan gwmnïau cyfreithiol cymwys i ddarparu ystod o wasanaethau cyfreithiol yn ôl y galw.
1.1 Gofynion
1.1.1 Mae rhai gofynion cyfreithiol sefydlog, ac mae eraill sydd yn ofynion posibl yn dibynnu yn helaeth ar amgylchiadau allanol a/neu ddigwyddiadau na ellir eu rhagweld.
Gofynion Sefydlog
• Cyngor ar faterion yn ymwneud â Memorandwm ac Erthyglau’r Coleg, yn cynnwys cyngor ar y berthynas gyda Thŷ’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau.
• Hyfforddiant i Ysgrifennydd y Coleg ar ei d/ddyletswyddau parthed gweithredu llywodraethiant y Coleg (gall hyn gynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, y Bwrdd a’i bwyllgorau, gofynion adrodd i Dŷ’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau a materion perthynol).
• Hyfforddiant rheolaidd i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr ar ddyletswyddau cyfarwyddwyr, datgan diddordeb, gwrthdaro buddiannau, unrhyw ofynion statudol neu ofynion eraill.
Gofynion Achlysurol Tebygol
Cyngor yn ymwneud â chyflogi staff, gan gynnwys pensiynau
Cytundebau a chontractau (masnachol a phrosiectau mewn prifysgolion)
Addysg Uwch ac Addysg Bellach/Prentisiaethau
Risg, Atebolrwydd a Iechyd a Diogelwch
Diogelu Data
Diweddariadau statudol allai effeithio unrhyw agwedd o waith y Coleg.
Eiddo - cyngor ar lês swyddfeydd y Coleg
Hawlfraint a Hawl Eiddo Deallusol
Rhyddid Gwybodaeth
Gofynion posib eraill
Cyllid corfforaethol
Gwasanaethau yn perthyn i anafiadau personol
Casglu dyled
1.1.2 Nid yw’r rhestrau uchod yn drwyadl a gall fod gofynion eraill yn dibynnu ar amgylchiadau. Gwahoddir ymgeiswyr i amlinellu gwasanaethau eraill allai fod yn berthnasol a defnyddiol.
1.1.3 Dylai cwmnïau nodi eu meysydd arbenigedd mewnol mewn perthynas â’r rhestrau uchod, a nodi hefyd ble fyddai angen cyrchu gwasanaeth yn allanol os nad yw ar gael yn fewnol ganddynt.
Dylid cyfeirio at y Gwahoddiad i Dendro atodol am fanylion llawn y gwasanaethau a sut i dendro.
|