Ceredigion County Council on behalf of Food Centre Wales is awarding to a suitably qualified and experienced supplier to provide a complete turnkey solution for the design, manufacture, supply, delivery, installation, commissioning and support of a pilot-scale multi-stage spray dryer with an integrated fluidised bed.
The equipment will be used within Food Centre Wales' Innovation and Manufacturing Hub to support food and beverage product development, process optimisation and scale-up trials. The system must be capable of simulating larger industrial spray drying processes and producing dust-free agglomerated powder products suitable for research, development and validation activities.
The contract includes equipment supply, delivery, installation, commissioning, acceptance testing, operator training, warranty support and the provision of all associated documentation required to place the equipment into full operational service.
The proposed solution must comply with all relevant UK legislation, safety requirements and industry standards applicable to food processing equipment.
Mae Cyngor Sir Ceredigion, ar ran Canolfan Fwyd Cymru, yn dyfarnu contract i gyflenwr cymwysedig a phrofiadol i ddarparu datrysiad cyflawn "tro-allwedd" ar gyfer dylunio, gweithgynhyrchu, cyflenwi, dosbarthu, gosod, comisiynu a chefnogi sychwr chwistrellu aml-gam ar raddfa beilot gyda gwely hylifedig integredig. Bydd yr offer yn cael ei ddefnyddio o fewn Hwb Arloesi a Gweithgynhyrchu Canolfan Fwyd Cymru i gefnogi datblygu cynhyrchion bwyd a diod, optimeiddio prosesau a threialon ehangu graddfa.
Rhaid i'r system fod yn gallu efelychu prosesau sychu chwistrellu diwydiannol ar raddfa fwy a chynhyrchu cynhyrchion powdr crynodedig di-lwch sy'n addas ar gyfer gweithgareddau ymchwil, datblygu a dilysu.
Mae'r contract yn cynnwys cyflenwi'r offer, ei ddosbarthu, ei osod, ei gomisiynu, profi derbyn, hyfforddi gweithredwyr, cymorth gwarant a darparu'r holl ddogfennaeth gysylltiedig sy'n ofynnol i roi'r offer mewn gwasanaeth gweithredol llawn.
Rhaid i'r datrysiad arfaethedig gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol yn y DU, gofynion diogelwch a safonau'r diwydiant sy'n berthnasol i offer prosesu bwyd.